Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/02/2025 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 11)

ACHOS FUSNES LLAWN PARC BRYN CEGIN

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) i gyflwyno’r Adroddiad.

Penderfyniad:

  1. Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin.
  2. Cadarnhau’r awdurdod dirprwyedig a wnaed ar 6 Rhagfyr 2024 i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo ac ymrwymo i’r Cytundeb Cyd-fenter.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin.

2.     Cadarnhau’r awdurdod dirprwyedig a wnaed ar 6 Rhagfyr 2024 i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo ac ymrwymo i’r Cytundeb Cyd-fenter.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i’r Achos Busnes Llawn ar gyfer prosiect Parc Bryn Cegin.

 

Cymeradwyodd y Bwrdd Achos Busnes Amlinellol y prosiect ar 6 Rhagfyr 2024. Mae’r Bwrdd Rhaglen Tir ac Eiddo a’r Bwrdd Portffolio wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ym mis Ionawr 2025.

 

Gan nad oes cytundeb ariannu grant ar gyfer y prosiect hwn, bydd y Cyd-fenter yn gweithredu fel cytundeb cyfreithiol rhwng Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.