CAIS AM NEWID CANOLBWYNT ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON
Elliw
Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) a Dafydd Jones (Rheolwr Prosiect
Bwyd-amaeth a Thwristiaeth) i gyflwyno’r Adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau a’r Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.
PENDERFYNIAD
1. Cytuno i’r cais am newid ar gyfer y prosiect Hwb Economi Wledig
Glynllifon ac yn ddarostyngedig i’r materion sy’n weddill, gofyn i Grŵp
Llandrillo Menai ymgymryd â’r gweithgaredd angenrheidiol i gyflwyno’r achosion
busnes perthnasol i’w hystyried.
2. Cadarnhau y bydd sgôp diwygiedig y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn y
dyraniad cyllid presennol ar gyfer y prosiect ac na fydd unrhyw gyllid pellach
ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu o’r Cynllun Twf o ganlyniad i’r newid
hwn.
3. Cefnogi’r egwyddor o ystyried prosiect ar wahân yn y dyfodol ar gyfer
cyflawni’r deoryddion a gofyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio barhau i drafod
gyda phartïon sydd â diddordeb i archwilio’r opsiwn hwn.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Ceisio
cymeradwyaeth y cais am newid y prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr
adroddiad.