14 NEWIDIADAU CYFANSODDIAD - RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACT NEWYDD (ADRAN 17) PDF 142 KB
Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu'r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd (Adran 17) a ddangosir
yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.
Cofnod:
Gosododd y Swyddog Monitro y cyd-destun a
chyflwynodd y Cyfreithiwr adroddiad:-
·
yn nodi bod y Ddeddf
Caffael 2023 a ddaeth i rym ar 24 Chwefror, 2025 yn golygu bod rhaid i’r Cyngor
adolygu a diwygio ei reolau caffael mewnol sydd wedi’u cynnwys o fewn y Rheolau
Gweithdrefn Contract i adlewyrchu’r newid yn y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau
cydymffurfiaeth â’r ddeddf.
·
yn gofyn i’r Cyngor newid
y Cyfansoddiad drwy fabwysiadu’r Rheolau Contract newydd (Adran 17) a ddangosir
yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.
Croesawyd y rheoliadau a dymunwyd yn dda i bawb
sy’n gweithio yn y maes Caffael.
Nodwyd nad oedd yna lawer o gyfeiriadau yn y
Rheoliadau at sgiliau ieithyddol yn yr is-gontractio ac awgrymwyd bod cyfle
euraid yn cael ei golli yma. Derbynnid
bod yna reolau contractio yn ymwneud â gwahaniaethu, ond roedd y gyfraith yn
dweud bod modd blaenoriaethu mewn gwahanol amgylchiadau wrth gyflawni nod
cyfreithlon fel hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Gan hynny, cynigiwyd gwelliant i ohirio mabwysiadu’r Rheoliadau hyd oni
fydd y Pwyllgor Iaith wedi cael cyfle i graffu hyn. Mewn ymateb, nodwyd:-
·
Bod
hwn yn fater o gydymffurfiaeth â deddfwriaeth sydd mewn llaw bellach, a bod
rhaid i’r Cyngor gael rheolau sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth yma.
·
Bod
y gwelliant yn ymwneud â pholisi caffael yn hytrach na’r gyfundrefn
gyfreithiol, h.y. beth mae’r Cyngor yn ei brynu yn hytrach na sut mae’r Cyngor
yn ei brynu.
·
O
bosib’ bod hyn yn fater i’w godi yn y Pwyllgor Iaith o ran sut mae caffael yn
adlewyrchu gofynion iaith, ayb.
·
Nad
oedd hyn yn cau’r drws o ran cynnal adolygiadau pellach yn y dyfodol.
Nododd y Prif Weithredwr fod rhwydd hynt i’r
Pwyllgor Iaith edrych ar unrhyw bwnc, ond na fyddai hynny’n newid y
penderfyniad.
Holwyd a allai’r swyddogion fod yn ffyddiog bod y
polisi’n helpu i gadw’r budd yn lleol, ac ar ba lefel o dendr mae’n gorfod mynd
allan ar Gwerthwch i Gymru? Mewn ymateb,
nodwyd:-
·
Mai
hanfod y rheoliadau newydd yw tryloywder, a bellach bod rhaid hysbysebu
gwybodaeth am dendrau islaw'r rhiniogau uchel oedd yn bodoli’n flaenorol.
·
Bod
y dull o fynd at i dendro wedyn yn fater o ddewisiadau, ond fframwaith
gyfreithiol ydoedd, ac roedd yna lawer mwy o ofyn ar lefel llawer is o ran
ymwybyddiaeth o dendrau a phrosesau caffael hefyd.
PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rheolau Gweithdrefn
Contract newydd (Adran 17) a ddangosir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd
i’r Cyngor.