Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 31/03/2025 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd (eitem 6)

6 DIWEDDARIAD CYNNYDD AR Y CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL A'R BERTHYNAS GYDA'R CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL pdf eicon PDF 234 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac Andy Roberts (Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

·       Derbyn yr Adroddiad gan nodi’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Strategol a’r berthynas gyda’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma.

·       Rhaglennu Adroddiad pellach i’r Is-bwyllgor hwn er rannu gwybodaeth gydag aelodau o gynlluniau, megis bws trydan, a geir o fewn prosiect Anturiaethau Cyfrifol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro CBC y Gogledd a Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr Adroddiad gan nodi’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Strategol a’r berthynas gyda’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yma.

·       Rhaglennu Adroddiad pellach i’r Is-bwyllgor hwn er rannu gwybodaeth gydag aelodau o gynlluniau, megis bws trydan, a geir o fewn prosiect Anturiaethau Cyfrifol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol yn gwbl ymwybodol o’r cynnydd gyda’r Cynllun Datblygu Strategol o gyfnod cynnar, i hyrwyddo ymgysylltiad rheolaidd ac ymagwedd integredig at gynllunio strategol.

 

TRAFODAETH

 

Croesawyd y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol i’w gyfarfod cyntaf.

 

Darparwyd diweddariad o’r broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Strategol a’r camau gweithredu sydd angen eu cyflawni. Ymhelaethwyd ar ystyriaethau amserlenni a gofynion cyfreithiol wrth fynd ati i ddatblygu’r Cynllun.

 

Nodwyd bod datblygu’r cynllun yn sicrhau bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ymateb i ofynion statudol o fewn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 am faterion lles economaidd rhanbarthol, cynllunio gofodol a chynllunio trafnidiaeth. Ymhelaethwyd bod  Llawlyfr Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei gyflwyno i Awdurdodau Cynllunio Lleol  gan Lywodraeth Cymru yn 2022 gan ddarparu arweiniad ar sut i ddatblygu Cynllun. Cadarnhawyd y disgwylir y byddai’n cymryd 5 mlynedd i gynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol lawn. Pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn ystyried os all Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wneud addasiadau i weithdrefnau er mwyn cyflymu’r broses ble’n briodol.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Datblygu Strategol yn un hirdymor a all fod yn weithredol am hyd at 25 mlynedd. Cadarnhawyd bod hyn yn caniatáu’r gallu i edrych ymlaen at ddatblygiadau’r dyfodol a sicrhau bod y materion hanfodol yn cael eu datblygu ar gyfer y rhanbarth cyfan. Tynnwyd sylw bod y Cynllun yn rhedeg ar y cyd gyda phrosiectau eraill Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd er mwyn sicrhau llesiant economaidd a bod isadeiledd addas ar gyfer cyrraedd targedau a gwireddu datblygiadau newydd.

 

Cadarnhawyd mai’r cam cyntaf wrth ddatblygu’r Cynllun bydd i baratoi Cytundeb Cyflawni. Ymhelaethwyd bydd y Cytundeb yn manylu ar sut bydd y Cynllun yn cael ei ddatblygu yn ogystal â chadarnhau sut gall rhan-ddeiliaid a’r gymuned fod yn rhan o’r broses datblygu. Manylwyd ar amserlen gychwynnol y broses ddatblygu gan nodi bod 8 prif gam ar gyfer datblygu’r Cynllun. Adroddwyd ar amserlen ddangosol y Cytundeb Cyflawni, gan nodi y gobeithir bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ei fabwysiadu’n ffurfiol ym mis Gorffennaf 2025 cyn gofyn i Lywodraeth Cymru ei fabwysiadu. Pwysleisiwyd bydd y Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei ffurfioli yn dilyn y camau hyn a bydd mor ei ddatblygu ymhellach, gan dderbyn adborth Llywodraeth Cymru ar amserlen fanwl y Cynllun Datblygu Strategol maes o law. Tynnwyd sylw y gobeithir bydd amserlen datblygu’r Cynllun hwn yn cyd-fynd gyda Chynlluniau Datblygu Lleol yr Awdurdodau Lleol.

 

Adroddwyd bod y berthynas glos rhwng y Cynllun Datblygu Strategol a’r Cynllun Trafnidiaeth Strategol yn sicrhau bod dull integredig cydweithredol yn cael ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6