Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/04/2025 - Y Cabinet (eitem 7)

7 CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN 2025/26 YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 228 KB

Mae Atodiad 1 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet n unig.

Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am nifer o brosiectau. Mae hyn yn berthnasol i nifer o sefydliadau.

Cyflwynwyd gan: Cyng. Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cytuno i barhad trefn llywodraethu ranbarthol Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y  Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn bontio 2025/26 gan awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr - i gadarnhau’r trefniadau

2.    Cytuno i barhau trefniadau llywodraethu lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Gyfunol yng Ngwynedd ar gyfer y flwyddyn bontio 2025/26.

3.    Cytuno bod pob cynllun yng Ngwynedd yn derbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wireddu dwy egwyddor, sef:

a.    Bod ymdrech fwriadol i sicrhau fod arian SPF a’r budd yn deillio ohono yn elwa cymunedau a thrigolion ym mhob rhan o Wynedd.

b.    Bod ymdrech fwriadol i annog gweithgareddau (a sefydliadau) nad ydynt wedi derbyn arian yn flaenorol gael mynediad i gymorth)

4.    Cytuno i esblygu ac addasu gweithgareddau o ymhlith prosiectau presennol a’u hymestyn ar gyfer y flwyddyn drosiannol, yn unol ag egwyddor Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol bod cyllid 2025/26 y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn estyniad o’r cyfnod 2022/24 i 2024/25 sy’n pontio i drefn ariannu newydd.

5.    Gofyn i’r Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynlluniau unigol sydd dan ystyriaeth ar gyfer dyraniad Gwynedd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan gyflwyno argymhelliad yn ôl i’r Cabinet ar y dyraniadau unigol.

6.    O fewn y gyllideb £7,900,000, cytunwyd i barhad pedair cronfa (gyda chyfanswm cyllideb cychwynnol oddeutu £2.29 miliwn) i ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r sir gan awdurdodi parhad tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R. Medwyn Hughes

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Atgoffwyd bod Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn arian a ddarperir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ers 2022, i hyrwyddo cynlluniau er lles yr economi a chymunedau. Ymhelaethwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r Awdurdod Arweiniol ar gyfer Gogledd Cymru ac yn arwain ar nifer o brosiectau. Adroddwyd bod £23.6 miliwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer ariannu 40 o gynlluniau o dan gyllideb y Gronfa hon yng Ngwynedd.

Eglurwyd bod diwedd Mawrth 2025 yn dynodi pryd roedd y Gronfa hon yn dod i ben wrth i Lywodraeth y DG lunio’r cynllun cychwynnol. Fodd bynnag, cyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref 2024, eu bwriad i ymestyn y Gronfa am flwyddyn bontio (2025/26) er mwyn caniatáu amser i ddiwygio’r drefn ariannu o Ebrill 2026. Nodwyd bod yr arian a ddarparwyd o fewn y Gronfa yn llai na’r blynyddoedd diwethaf gyda phwysau ar Awdurdodau Lleol i sicrhau ei fod wedi cael ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

Cadarnhawyd bod gwaith o werthuso y prosiectau sydd wedi cael eu hariannu hyd yma ar y gweill ar hyn o bryd, gan bod gyllideb y Gronfa yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

Tynnwyd sylw bod yr amserlen i ddefnyddio’r arian a ddarparwyd o’r Gronfa yn dynn iawn ac mae’r Adran yn datblygu cynlluniau er mwyn ymdrechu i sicrhau bod cynlluniau yn cael eu gwireddu yn amserol. Pwysleisiwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y defnydd gorau o’r arian yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7

Awdur: Dylan Griffiths (Rheolwr Gwasanaeth Datblygu'r Economi, Adran Economi a Chymuned)