Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/04/2025 - Y Cabinet (eitem 8)

8 CYNNIG MAETHU I OFALWYR MAETHU CYMRU GWYNEDD pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Caniatáu gostyngiad o 50% (25% i Ofalwyr Maeth egwyl fer) ym miliau Treth Cyngor prif breswylfa gofalwyr maeth sy’n gofrestredig i’r Cyngor, cyn ystyried unrhyw ddisgowntiau, eithriadau a/neu Ostyngiad Treth Cyngor y maent eisoes yn deilwng iddynt.

2.     Cynnid tocyn parcio blynyddol am ddim.

3.     Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden.

4.     Mabwysiadu polisi Maethu Cyfeillgar i ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd sy’n gyflogedig i’r Cyngor.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Caniatáu gostyngiad o 50% (25% i Ofalwyr Maeth egwyl fer) ym miliau Treth Cyngor prif breswylfa gofalwyr maeth sy’n gofrestredig i’r Cyngor, cyn ystyried unrhyw ddisgowntiau, eithriadau a/neu Ostyngiad Treth Cyngor y maent eisoes yn deilwng iddynt.
  2. Cynnid tocyn parcio blynyddol am ddim.
  3. Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden.
  4. Mabwysiadu polisi Maethu Cyfeillgar i ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd sy’n gyflogedig i’r Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod y gefnogaeth a ddarperir gan rieni maeth yn allweddol i’r Cyngor gan eu bod hefyd yn lleddfu baich ar wasanaethau eraill. Gobeithiwyd bydd cynnig y buddiannau a drafodwyd o fewn yr Adroddiad yn denu gofalwyr maeth newydd yn ogystal â rhoi cefnogaeth a dangos gwerthfawrogiad i rieni maeth presennol y Cyngor.

 

Datganwyd bod 190 o blant wedi eu lleoli mewn darpariaeth gofal maeth ar hyn o bryd yng Ngwynedd. Eglurwyd bod 30 o’r plant hynny mewn lleoliad maethu a ddarperir gan y sector annibynnol ac mae’r holl blant eraill yn derbyn gofal gan ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd. Eglurwyd y golyga hyn bod 85% o blant sydd yn derbyn gofal maeth yn derbyn y gefnogaeth hynny drwy ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd.

 

Nodwyd bod rhai o’r buddion a gynigiwyd i ofalwyr maeth o fewn y pecyn cefnogaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, yn arwain at oblygiadau ariannol i’r Cyngor. Fodd bynnag, ystyriwyd bod y goblygiadau hyn yn sylweddol llai na chostau lleoliadau maethu’r sector annibynnol, a all fod yn gost o hyd at £989 yr wythnos, ar gyfer un plentyn. Amlygwyd yr angen i ddarparu pecyn cefnogaeth gystadleuol i ddenu gofalwyr maeth o’r newydd, oherwydd y buddion a gynigir drwy’r sector annibynnol.

 

Cadarnhad bod y Cynnig Maethu arfaethedig ar gyfer gofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd yn cynnwys:

·       Gostyngiad Treth Cyngor

·       Tocyn Parcio Blynyddol

·       Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden

·       Polisi Cefnogaeth i Faethu

 

Tynnwyd sylw bod ymchwil a wnaed gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Ionawr 2022 yn amlygu bod plant sy’n byw gyda Gofalwyr Maeth yn eu hardal eu hunain yn fwy tebygol o ffynnu yn ogystal â chynnal cysylltiadau pwysig. Pwysleisiwyd ei bod yn allweddol bod awdurdodau lleol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau lleoliadau maethu lleol i blant, gan gadarnhau bod rhieni maeth yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth hynny.

 

Cydnabuwyd ei fod yn her i ddenu unigolion i fod yn ofalwyr maeth gan ymhelaethu nad oes digon o ofalwyr maeth yng Ngwynedd i gyd-fynd â’r galw am gefnogaeth, fel y cadarnhawyd oddi fewn Strategaeth Comisiynu Lleoliadau Gwynedd (diweddariad 2024). Nodwyd bod ffigyrau Rhwydwaith Maethu yn amcanu bod angen denu 550 yn fwy o aelwydydd gofal maeth yn flynyddol yng Nghymru er mwyn cyfarch y galw am gefnogaeth.

 

Eglurwyd y bwriedir cynnig y buddion a gyflwynwyd yn y pecyn cefnogaeth o 1 Ebrill 2025, gan sicrhau y bydd anfonebau Treth Cyngor diwygiedig yn cael eu hanfon i’r unigolion perthnasol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

Awdur: Aled Gibbard (Pennaeth Cynorthwyol Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd)