Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/04/2025 - Y Cabinet (eitem 9)

9 SIARTER RHIANTA CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ‘Siarter Rhianta Corfforaethol – Addewid Cymru’ ym mis Medi 2023. Ychwanegwyd bod gofyn i awdurdodau lleol fabwysiadu’r Siarter er mwyn dangos ymrwymiad i hyrwyddo hawliau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

 

Tynnwyd bod y Siarter yn cynnwys egwyddorion ac addewidion sy’n cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan nodi’r angen i lynnu atynt wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd yn, neu wedi, derbyn gofal yr Awdurdod.

 

Cadarnhawyd mai’r egwyddorion a gyflwynwyd yn y Siarter yw:

  • Cydraddoldeb
  • Dileu Stigma
  • Gyda’n Gilydd
  • Cefnogaeth
  • Uchelgais
  • Anogaeth
  • Iechyd Da
  • Cartref Sefydlog
  • Addysg Dda
  • Ffynnu

 

Ymhelaethwyd bod 9 addewid wedi cael eu cyflwyno o fewn y Siarter, er mwyn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu cyflawni.

 

Nodwyd byddai mabwysiadu’r Siarter yn cryfhau trefniadau’r Cyngor gan fynegi balchder bod blaenoriaethau Siarter Rhianta Corfforaethol y Cyngor yn cydblethu’n dda gyda’r egwyddorion ac addewidion hyn.

 

Adroddwyd bydd gweithrediad y Siarter yn cael ei archwilio gan Banel Rhiantu Corfforaethol y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Cefnogwyd mabwysiadu’r Siarter gan ei fod yn ddull o ffurfioli’r egwyddorion sydd eisoes ar waith o fewn Cyngor Gwynedd ac yn rhoi ymrwymiad o barhad yr egwyddorion hynny i’r dyfodol.

 

Awdur: Aled Gibbard (Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd)