10 ADRODDIAD PERFFORMAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED PDF 258 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Medwyn Hughes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R. Medwyn Hughes
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i wireddu cynnydd mewn
nifer fawr o brosiectau blaenoriaeth Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 y mae’r
Adran yn gyfrifol amdanynt sef:
Amlygwyd rhai o brif risgiau’r Adran, gan fanylu ar
ansicrwydd am ddyfodol cyllidebau Rhaglen ARFOR, Cronfa Ffyniant Bro ac SPF.
Nodwyd gall hyn gael effaith ar allu’r Adran i wireddu’r pedwar prosiect
blaenoriaeth yma yn amserol.
Tynnwyd sylw penodol at raglen ARFOR gan bod gwerthusiad o’r
rhaglen yn dangos buddion clir i fusnesau a chymunedau, ei fod yn hyrwyddo’r
defnydd a gwelededd y Gymraeg ac yn amlygu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc o fewn
y rhanbarth. Mynegwyd siomedigaeth bod dyfodol y rhaglen yn parhau i fod yn
ansicr, gan nad oes ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i’w ariannu yn 2025/26.
Diweddarwyd bod cytundeb i adeiladu 10 uned busnes ar waith
ym Minffordd, gyda bwriad o gychwyn ar y broses adeiladu yn ail chwarter 2025.
Mynegwyd pryder bod niferoedd disgyblion Gwynedd sydd yn
cael gwersi nofio yng nghanolfannau Byw’n Iach yn parhau i ostwng. Atgoffwyd
bod 85% o blant Cyfnod Allweddol 2 yn derbyn gwersi nofio yno cyn y Pandemig,
gan nodi bod y ffigwr hwn wedi gostwng i 54% erbyn diwedd Haf 2024. Datganwyd
pryder mai’r ysgolion gyda’r lefelau uchaf o ddifreintedd yn y Sir sydd gyda’r
lefelau isaf o sgiliau nofio. Cadarnhawyd bod y pryder hwn wedi cael ei rannu
gyda’r ysgolion, yn dilyn trafodaethau gyda’r Aelod Cabinet Addysg.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Sioned E. Williams (Pennaeth Adran Economi a Chymuned)