Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Beca Brown
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae 1 ymhob 4 dynes ac 1 ymhob 6 dyn wedi
dioddef camdriniaeth rhywiol yn ystod eu plentyndod, a gall y ffigwr yna fod yn
uwch fyth.
Nid yn unig bod y profiadau yma yn erchyll
iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag effeithiau’r troseddau ofnadwy
yma gydol eu hoes.
Mae dioddefwyr camdriniaeth rhywiol yn dweud
yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth
ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob dydd, am byth.
Mae Mai 1af yn ddiwrnod blynyddol i gofio am
y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd ddychrynllyd yma, ac i’n
hatgoffa y gall camdriniaeth rhywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw
gymuned. Nid yw camdriniaeth rhywiol yn adnabod gwahaniaethau diwylliannol,
cymdeithasol, ieithyddol, crefyddol, rhywedd na hil. Gall ddigwydd yn unrhyw
le, i unrhyw un.
Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu sydd yn
trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar y
dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rhywiol drwy’r
byd.
Galwn ar Gyngor Gwynedd i adnabod y dyddiad
yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n ddiwrnod i gofio am
ddioddefwyr. Galwn ar y Cyngor i hedfan baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar
Fai 1af bob blwyddyn er mwyn datgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr yw
camdriniaeth rhywiol, ond cywilydd y troseddwr. Galwn ar Gyngor Gwynedd i dynnu
sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar gael i
ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am
gamdriniaeth rhywiol neu am bryderon diogelwch plant.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae 1 ymhob 4 dynes ac 1 ymhob 6 dyn wedi
dioddef camdriniaeth rhywiol yn ystod eu plentyndod, a gall y ffigwr yna fod yn
uwch fyth.
Nid yn unig bod y profiadau yma yn erchyll
iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag effeithiau’r troseddau ofnadwy
yma gydol eu hoes.
Mae dioddefwyr camdriniaeth rhywiol yn dweud
yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth
ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob dydd, am byth.
Mae Mai 1af yn ddiwrnod blynyddol i gofio am
y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd ddychrynllyd yma, ac i’n
hatgoffa y gall camdriniaeth rhywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw
gymuned. Nid yw camdriniaeth rhywiol yn
adnabod gwahaniaethau diwylliannol, cymdeithasol, ieithyddol, crefyddol,
rhywedd na hil. Gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un.
Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu sydd yn
trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar y
dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rhywiol drwy’r
byd.
Galwn ar Gyngor Gwynedd i adnabod y dyddiad
yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n ddiwrnod i gofio am
ddioddefwyr. Galwn ar y Cyngor i hedfan
baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar Fai 1af bob blwyddyn er mwyn datgan yn
glir nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rhywiol, ond cywilydd y
troseddwr. Galwn ar Gyngor Gwynedd
i dynnu sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar gael i
ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am
gamdriniaeth rhywiol neu am bryderon diogelwch plant.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Beca Brown o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae 1 ymhob 4 dynes
ac 1 ymhob 6 dyn wedi dioddef camdriniaeth rywiol yn ystod eu plentyndod, a
gall y ffigwr yna fod yn uwch fyth.
Nid yn unig bod y
profiadau yma yn erchyll iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag
effeithiau’r troseddau ofnadwy yma gydol eu hoes.
Mae dioddefwyr
camdriniaeth rywiol yn dweud yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael
iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob
dydd, am byth.
Mae Mai 1af yn
ddiwrnod blynyddol i gofio am y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd
ddychrynllyd yma, ac i’n hatgoffa y gall camdriniaeth rywiol ddigwydd i unrhyw
blentyn, mewn unrhyw gymuned. Nid yw
camdriniaeth rywiol yn adnabod gwahaniaethau diwylliannol, cymdeithasol,
ieithyddol, crefyddol, rhywedd na hil.
Gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un.
Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu
sydd yn trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar
y dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rywiol drwy’r
byd.
Galwn ar Gyngor
Gwynedd i adnabod y dyddiad yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n
ddiwrnod i gofio am ddioddefwyr. Galwn
ar y Cyngor i hedfan baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar Fai 1af bob blwyddyn
er mwyn datgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rywiol, ond
cywilydd y troseddwr. Galwn ar Gyngor
Gwynedd i dynnu sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar
gael i ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am
gamdriniaeth rywiol neu am bryderon diogelwch plant.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-
·
Bod
dioddefwyr trais rhywiol, yn aml iawn, yn cario cywilydd y drosedd, yn ogystal
â phoen dwfn am weddill eu hoes, ac mai nod yr ymgyrch Not my
Shame / Nid fy Nghywilydd oedd rhoi’r cywilydd yn ôl
lle dylai fod, sef ar ysgwyddau’r troseddwr.
·
Bod
camdriniaeth rywiol yn chwalu bywydau, yn rhwygo teuluoedd ac yn creithio
cymunedau ac yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl, iechyd corfforol, ar y
gallu i ffurfio perthynas, ar y gallu i riantu yn
effeithiol ac ar gyrhaeddiad addysgol ac economaidd.
·
Bod
derbyn ymateb cefnogol yn gwella llawer iawn ar fyd dioddefwyr sy’n datguddio
eu camdriniaeth, ac roedd modd i bobl broffesiynol (yn cynnwys gwleidyddion)
chwarae rhan, nid ansylweddol, yn lliniaru effeithiau camdriniaeth os ydyn
nhw’n ymateb yn briodol, yn amserol, yn gefnogol ac yn dosturiol.
·
Bod
camdriniaeth rywiol wedi bwrw ei chysgod dros y sir yma, fel mae’n bwrw ei
chysgod ymhob man, ac oherwydd bod sefydliadau lle mae nifer uchel o blant yn
cronni yn gallu denu troseddwyr, roedd yn bwysig bod yn effro i’r risgiau hynny
bob amser.
· Ei bod yn bwysig cofio hefyd bod camdriniaeth rywiol o blant yn gallu digwydd mewn unrhyw gyd-destun, ac yn amlach na pheidio, yn eu cartrefi eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14