PENODI CYFARWYDDWR PORTFFOLIO - TYNNU RHESTR FER
Tynnu rhestr fer i benodi
Cyfarwyddwr Portffolio ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
(Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu
i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
RHOI TRI YMGEISYDD AR RESTR
FER CYFWELIADAU SWYDD Y CYFARWYDDWR PORTFFOLIO.
Cofnod:
Adroddodd Alwen Williams (Prif Weithredwr) bod 16 cais wedi
dod i lawr. Mynegwyd fod 3 o’r ceisiadau wedi cyrraedd gofynion y swydd.
Cynigwyd ac eiliwyd rhoi tri ymgeisydd ar y rhestr fer.
PENDERFYNWYD RHOI TRI YMGEISYDD AR RESTR
FER CYFWELIADAU SWYDD Y CYFARWYDDWR PORTFFOLIO.
Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf, amlygwyd y byddai’r
ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion ar-lein a
chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu yn cael ei chynnal.
Bydd adborth o ymatebion a pherfformiad yr ymgeiswyr yn yr ymarferion a’r
ganolfan asesu yn cael eu cyflwyno ar lafar i’r Cydbwyllgor Corfforedig ar
ddiwrnod y cyfweliadau.
PENODI PRIF WEITHREDWR AR GYFER Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG - TYNNU RHESTR FER
Tynnu rhestr fer i benodi Prif
Weithredwr ar gyfer Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd
(Pecyn gwybodaeth a ffurflenni cais wedi ei dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
RHOI PEDWAR
YMGEISYDD AR RESTR FER CYFWELIADAU PRIF WEITHREDWR CYD-BWYLLGOR CORFFOEDIG Y GOGLEDD
Cofnod:
Adroddodd Dafydd Gibbard (Prif
Weithredwr Cyngor Gwynedd) bod deg cais wedi ei dderbyn am y swydd gyda phedwar
yn cyfateb yn llawn i feini prawf hanfodol gofynion y swydd.
Argyhoeddwyd yr Aelodau bod y
swydd wedi ei hysbysebu yn ddigonol a bod yr ystod eang o ymgeiswyr yn
tystiolaethu hyn.
Cynigiwyd ac eiliwyd rhoi pedwar
ymgeisydd ar y rhestr fer.
PENDERFYNWYD:
RHOI PEDWAR YMGEISYDD AR Y RHESTR FER AR GYFER PENODI
PRIF WEITHREDWR AR GYFER CYDBWYLLGOR CORFFOREDIG
Wrth ymhelaethu ar y camau nesaf,
amlygwyd y byddai’r ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfres o
ymarferion ar-lein a chyda seicolegwyr busnes. Ategodd y byddai Canolfan Asesu
yn cael ei chynnal, ynghyd a threfniadau asesu pellach o dan arweiniad yr
Awdurdod Lletyol. Bydd adborth o ymatebion a
pherfformiad yr ymgeiswyr yn yr ymarferion a’r ganolfan asesu yn cael eu
cyflwyno ar lafar i’r Cydbwyllgor Corfforedig ar ddiwrnod y cyfweliadau.
Trafodwyd testun cyflwyniad 10
munud i’r ymgeiswyr ynghyd a chwe cwestiwn (drafft) ar gyfer y cyfweliadau. Yn
dilyn yr adborth a dderbyniwyd, adroddwyd y bydd fersiwn derfynol o’r
cwestiynau yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau cyn diwrnod y cyfweliadau.
Diolchwyd i’r swyddogion am y
gwaith trylwyr ac am gwblhau’r broses yn unol â’r drefn.