Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/07/2025 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 6)

6 CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno a nodi –

·       Datganiad o’r Cyfrifon Drafft

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2025. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon ac nad oedd dim newid yn y canllawiau o’r flwyddyn ddiwethaf.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa a gwaith yn parhau mewn buddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu gyda CPI. Adroddwyd bod cynnydd yn y costau rheoli wrth i werth yr asedau gynyddu ac o gyflwyno mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio e.e. credyd preifat. Ategwyd bod cynnydd o oddeutu £160 miliwn yng ngwerth marchnad y gronfa sy’n unol a’r cynnydd graddol blynyddol.

 

Eglurwyd bod incwm buddsoddi'r gronfa wedi codi yn sylweddol a buddsoddiadau ecwiti wedi perfformio yn gryf ac o ganlyniad wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Ategwyd fel rhan o’r dyraniad asedau strategol, buddsoddwyd mwy yn y cronfeydd incwm sefydlog ac isadeiledd.

 

Tynnwyd sylw at y nodiadau statudol oedd yn rhoi manylion pellach tu ôl i’r ffigyrau, gweithgareddau'r Gronfa, a Phartneriaeth Pensiwn Cymru, gan fod y Bartneriaeth yn rhan flaenllaw bellach o waith y Gronfa.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod, fel Swyddog Adran 151 wedi arwyddo'r cyfrifon drafft gan dderbyn eu bod yn adlewyrchiad cywir a theg o’r sefyllfa.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod yr adroddiad a'r cyfrifon yn fanwl ac yn hawdd eu deall

·        Bod y fformat yn un da

·        Bod y cynnydd (growth) yn galonogol

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25