7 CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2025
PDF 48 KB
I ystyried
a derbyn yr adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth
Cofnod:
Croesawyd Osian Roberts (Archwilio
Cymru) i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Manwl ar gyfer 2025 oedd
yn cyflwyno’r tîm archwilio, y ffioedd a llinell amser y gwaith fydd yn cael
ei gwblhau yn ystod y flwyddyn,
yn unol â’r
cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel
archwilwyr allanol. Amlygwyd y byddai gwaith archwilio’r datganiadau ariannol yn cael ei
gwblhau yn ystod mis Medi gyda bwriad o gyflwyno adroddiad ar y datganiadau yn ystod Tachwedd 2025. Cyfeiriwyd at y risgiau gan nodi bod y risg o wrthwneud gan reolwyr
yn risg gorfodol
sydd wed ei gynnwys ymhob cynllun
yng Nghymru fel rhan o weithdrefn
Archwilio Cymru.
Diolchwyd am yr adroddiad ac i Osian Roberts am fynychu’r cyfarfod.
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r wybodaeth