Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 21/05/2025 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 8)

8 DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER CYDBWYLLGOR GWE pdf eicon PDF 143 KB

I dderbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25.

Cofnod:

Cyflwynwyd y Datganiad Llywodraethu gan Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Gwella Ysgolion). Adroddwyd bod Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy Gyd-bwyllgorau ffurfiol.  Ategwyd mai gofyniad Rhan 5 o’r Rheoliadau hynny yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo Datganiad Rheolaeth fewnol gyda’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad hwnnw.

 

Eglurwyd, er mwyn arddangos llywodraethu da, rhaid i GwE ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r egwyddorion craidd sydd yn y 'Framework for Delivering Good Governance in Local Government (CIPFA/Solace, 2016)'. Paratowyd y datganiad yn unol â'r egwyddorion hynny.

 

Nodwyd bod  y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un dra gwahanol o ran Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn y Gogledd yn sgil newidiadau cenedlaethol a’r adolygiad o’r haen ganol.  O ganlyniad, roedd y Datganiad yn manylu ar drefniadau oedd wedi bod yn weithredol am y flwyddyn ariannol 2024-25 a hynny yng nghyd-destun y newidiadau a’r  cyfrifoldebau perthnasol.

 

Adroddwyd, yn dilyn cynnal yr asesiad, nad oedd materion llywodraethu arwyddocaol wedi’u hadnabod yn 2024/25 a nodwyd y farn bod y trefniadau llywodraethu yn cynnig sicrwydd cryf bod trefniadau llywodraethu GwE yn gweithio'n dda.

 

Diolchodd y Pennaeth Gwasanaeth GwE - Gwella Ysgolion, am y cydweithio da oedd wedi bodoli gydag Adran Gyllid Cyngor Gwynedd ac am eu cymorth parod i ddarparu adroddiadau  yn unol â’r gofyn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd derbyn y Datganiad

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25.