Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/06/2025 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd (eitem 8)

8 CYFETHOL AELODAETH I'R CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG pdf eicon PDF 217 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Bod y Swyddog Monitro yn adolygu egwyddorion cyfethol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a'i is-bwyllgorau fel y nodir yn y Rheoliadau Sefydlu (fel y'u diwygiwyd) a'r canllawiau statudol.
  2. Bod yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori â'r pedwar darparwr Addysg Uwch ac Addysg Bellach mewn perthynas â'u haelodaeth ar yr is-bwyllgor Lles Economaidd i'w adrodd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.
  3. Mewn perthynas â llywodraethu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol, y rhoddir ystyriaeth i'r opsiynau ynghylch creu aelodaeth ymgynghorol neu grwpiau cyswllt rhanddeiliaid gyda chynrychiolwyr o'r Undebau Llafur, y Trydydd Sector, Cymdeithasau Tai, y sector preifat ac iechyd, ac y byddai’r telerau hyn yn darparu ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chydweithio wrth gefnogi gwneud penderfyniadau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.
  4. Bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a Phrif Weithredwyr yr Awdurdodau Cyfansoddol gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gydag argymhelliad ynghylch y model ar gyfer cyfethol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd:

                     i.         Bod y Swyddog Monitro yn adolygu egwyddorion cyfethol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a'i is-bwyllgorau fel y nodir yn y Rheoliadau Sefydlu (fel y'u diwygiwyd) a'r canllawiau statudol.

 

                   ii.          Bod yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori â'r pedwar darparwr Addysg Uwch ac Addysg Bellach mewn perthynas â'u haelodaeth ar yr is-bwyllgor Lles Economaidd i'w adrodd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.

 

                 iii.          Mewn perthynas â llywodraethu'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol, y rhoddir ystyriaeth i'r opsiynau ynghylch creu aelodaeth ymgynghorol neu grwpiau cyswllt rhanddeiliaid gyda chynrychiolwyr o'r Undebau Llafur, y Trydydd Sector, Cymdeithasau Tai, y sector preifat ac iechyd, ac y byddai’r telerau hyn yn darparu ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chydweithio wrth gefnogi gwneud penderfyniadau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

                 iv.          Bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a Phrif Weithredwyr yr Awdurdodau Cyfansoddol gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig gydag argymhelliad ynghylch y model ar gyfer cyfethol.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen am drafodaeth ar sefydlu trefniadau llywodraethu, a bod yr adroddiad hwn yn rhan o’r broses i ddod i’r afael a’r gofynion yn y canllawiau statudol. Eglurwyd fod y canllaw yn nodi'r angen i gynnwys eraill yn weithredol yng ngwaith y Cyd-bwyllgor ar draws swyddogaethau. Amlygwyd fod trafodaeth am sedd a phleidlais i’r sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ond nodwyd yr angen i greu proses fydd yn mynd i’r afael a hyn.

 

Eglurwyd mai cam cyntaf yn y daith yw’r adroddiad hwn er mwyn cael cynllun pendant, ond nodwyd yr angen i barchu democratiaeth ond fod model ymarferol yn ei le er mwyn gwneud y gwaith.