Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/06/2025 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd (eitem 9)

9 DIWEDDARIAD RHAGLEN WEITHREDU ÔL-DROSGLWYDDO'R CBC 2025-26 pdf eicon PDF 195 KB

Iwan Evans, Swyddog Monitro a David Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu’r CBC i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn diweddaru’r Aelodau ar ôl drosglwyddo ar ddatblygiad y prosiect a pharhad cynnydd y rhaglen weithredu i gefnogi sefydliad parhau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro a David Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu’r CBC.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn diweddaru’r Aelodau ar ôl drosglwyddo ar ddatblygiad y prosiect a pharhad cynnydd y rhaglen weithredu i gefnogi sefydliad parhau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn dilyn trosglwyddo ar 1 Ebrill 2025. Amlygwyd fod rhaglen o newid a gwelliant yn seiliedig ar flaenoriaethau a rhai ffactorau cyfyngol ar gyfer y flwyddyn. Mynegwyd fod angen rhagor o waith ar gyfer newid sydd heb ei ddatblygu eto yn y blynyddoedd dilynol. 

 

Nodwyd fod gwaith penodol ar gyfer prosiectau ac i ddatblygu dealltwriaeth y cyhoedd o waith y CBC. Diolchwyd am y diweddariad a nodi’r angen i dderbyn diweddariad ym mis Medi, gan fod angen i waith parhau dros fisoedd yr haf.