Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/06/2025 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd (eitem 12)

12 ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU 2024/25 pdf eicon PDF 219 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2024/25 i'r Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) a chael cymeradwyaeth y Ffurflen Flynyddol swyddogol ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn rhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2024/25 i'r Cydbwyllgor Corfforedig (CBC) a chael cymeradwyaeth y Ffurflen Flynyddol swyddogol ar gyfer 2024/25.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi gan fod trosiant y Cyd-bwyllgor yn is ‘na £2.5m, mai ffurflen flynyddol yn hytrach na datganiad cyfrifon llawr fydd ei angen er mwyn cwrdd â’r gofyniad statudol.

 

Mynegwyd fod y sefyllfa alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn yn danwariant o bron i £402k, ac eglurwyd fod hyn wedi cynyddu o beth ragwelwyd yn adolygiad mis Rhagfyr. Nodwyd fod hyn yn bennaf oherwydd na fydd y gwariant ar ymgynghorwyr allanol ar gyfer Cynllunio Strategol yn cychwyn nes 2025/26.

 

Tywyswyd drwy benawdau’r gyllideb a amlygwyd tanwariant terfynol o £333,674 ar bennawd Gweithwyr. Nodwyd fod gyllideb lwfans aelodau lleyg yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal o 2025/26. Mynegwyd nad oedd cyllideb teithio a chynhaliaeth wedi ei defnyddio yn ystod y flwyddyn, a bod tanwariant o £129,140 yn erbyn pennawd cyflenwadau a gwasanaethau. Esboniwyd fod ffioedd Archwilio Cymru yn dangos yn negyddol, a bod hyn oherwydd bod y ffioedd a gyfrifwyd yn y blynyddoedd blaenorol yn uwch na’r symiau gwirionedd ac wedi eu gwrthdroi yn 2024/25. Yn ogystal, roedd ffioedd yn is oherwydd mai Ffurflen Flynyddol yn hytrach na set lawr o gyfrifon sydd angen eu harchwilio. Amlygwyd fod gwariant ymgynghorwyr allanol o £222,231 o ariannwyd £180,517 gan Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Nodwyd fod tanwariant ar y costau yswiriant, gan mai polisi interim oedd yn bodoli gyda’r polisi llawn yn dechrau mis Ebrill 2025.

 

Eglurwyd fod gwariant net, o £195,753. Nodwyd fod gwariant ar y costau cyfreithiol a democratiaeth yn cynnwys costau cwmni cyfreithiol allanol yn ogystal ag ymgynghorydd cyfreithiol a democrataidd a gomisiynwyd i ddarparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar sefydlu’r CBC.

 

Mynegwyd fod y CBC yn llwyddiannus yn ei gais i Lywodraeth Cymru am gyllid tuag at y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol, a dyfarnwyd £125k yn 2023/24 a £100k yn 2024/25. Derbyniwyd llog a dderbyniwyd ar falasnau ar gyfer 2024/25 oedd £57,723. Eglurwyd fod cyfraniad o’r gronfa wrth gefn o £83k sy’n ymwneud â’r costau'r Parth Buddsoddi yn cael eu had-dalu unwaith y bydd yr incwm grant yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor nodi a derbyn y gwir wariant ac incwm ar gyfer 2024/25, ac i gymeradwyo’r tanwariant o £402k i’r gronfa wrth gefn wedi’i glustnodi i roi cyfanswm o £1,113k. Ychwanegwyd fod £565k o hwn wedi ei gymeradwyo i’w ddefnyddio fel rhan o gyllideb 2025/26.