Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/06/2025 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd (eitem 13)

13 DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 pdf eicon PDF 212 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyniwyd yr adroddiad a oedd yn darparu Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cydbwyllgor Corfforedig ar gyfer 2025/26.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod penderfyniadau rheolaeth trysorlys yn cael ei wneud yn ddyddiol, ac mae’n ofynnol i’r Adran Gyllid yng Nghyngor Gwynedd weithredu yn unol â’r Strategaeth Rheolaeth Trysorlys sydd wedi ei gymeradwyo. Bu i drosglwyddiad y Bwrdd Uchelgais i’r CBC ddigwydd ar 1 Ebrill 2025, ac felly mae’r datganiad yn cynnwys balansau arian y CBC a BUEGC.

 

Eglurwyd fod y datganiad wedi ei seilio ar Côd CIPFA a’r Canllaw ar Fuddsoddiadau Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru, ac felly yn cyflawni cyfrifoldeb cyfreithiol y CBC dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Esboniwyd fod rheolaeth trysorlys yn ymwneud â chadw digonedd ond nid gormodedd o arian parod i ddiwallu anghenion gwariant y CBC, gan reoli risgiau cysylltiedig â tharo’r cydbwysedd cywir rhwng risg ac enillion. Mynegwyd er mwyn ffurfio’r Strategaeth yma, eglurwyd fod yr adran wedi derbyn cyngor arbenigol gan ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys, Arlingclose. Eglurwyd fod y buddsoddiadau yn gyson gyda math o fuddsoddiadau mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud, a bod cyfyngiadau yn y swm a ganiateir ar gyfer pob sefydliad er mwyn lledaenu’r risg.