7 CALENDR CYFARFODYDD PDF 200 KB
Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd y calendr drafft ar gyfer cyfnod hyd at fis
Mehefin 2026.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwywyd y calendr drafft ar gyfer cyfnod hyd at fis
Mehefin 2026.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adorddiad gan nodi
fod gofyniad i’r Cydbwyllgor dderbyn calendr er mwyn penderfynu ar amlder ei
gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn gyngor canlynol. Amlygwyd fod dyddiadau yn ei
lle ar gyfer y Cydbwyllgor ynghyd â thri o’r is bwyllgorau - sef Is-bwyllgor
Lles Economaidd, Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol ac yr Is-bwyllgor Cynllunio
Strategol.
Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sefydlu’r
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a bod angen gosod rhaglen waith. Eglurwyd
fod bwriad i hysbysebu am aelodau i’r Pwyllgor Safonau ar ôl yr haf, ac o ran y
Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu fod pump o’r awdurdodau wedi derbyn yr adroddiad
i’w sefydlu ond eu bod yn parhau i ddisgwyl am benderfyniad un sir.