6 Cais Rhif C25/0503/14/DT Strade, 65 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LL
PDF 158 KB
Dymchwel ystafell haul bresennol a chodi estyniad newydd ir cefn.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu Gydag Amodau
1 Pum
Mlynedd i ddechrau'r gwaith
2 Unol a
chynlluniau
3 Unol a'r
datganiad seilwaith gwyrdd
Nodyn Gwybodaeth:
Dŵr Cymru
Cofnod:
Dymchwel ystafell haul presennol a chodi estyniad
newydd i’r cefn
a)
Amlygodd y Swyddog
Cynllunio mai cais deiliad
tŷ oedd dan sylw ar gyfer dymchwel ystafell haul presennol a chodi
estyniad unllawr ar gefn yr eiddo. Eglurwyd bod bwriad gorffen yr estyniad gyda
chladin pren, gyda ffenestri uchel yn cael eu gosod i edrychiadau ochr yr
estyniad a drysau biffold a ffenestri mawr ar edrychiad cefn yr eiddo.
Nodwyd bod
yr eiddo yn dŷ unigol mewn ystâd o dai unigol eraill ac o fewn ffin
datblygu Caernarfon. Nid yw’r eiddo wedi ei leoli o fewn unrhyw ddynodiadau tir
arbennig ac fe gyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn Aelod
Etholedig o’r Cyngor.
Adroddwyd
nad oedd unrhyw wrthwynebiad wedi ei dderbyn yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus
a bod Dŵr Cymru yn cynnig cyngor a chanllawiau i'r ymgeisydd drwy lythyr.
Yng
nghyd-destun materion dyluniad a mwynderau preswyl, ni ystyriwyd y byddai’r
bwriad yn niweidiol i edrychiad
presennol y safle nac yn amharu yn ormodol ar fwynderau gweledol yr ardal yn
gyffredinol. Ystyriwyd bod yr adeilad yn safonol yr olwg, o ran mwynderau
gweledol ac felly yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 1 a
2 o bolisi PCYFF 3. O ran dyluniad, ystyriwyd nad oedd effaith ar fwynderau
cymdogion cyfagos oherwydd mai estyniad unllawr sydd yma, ac na fyddai’r
ffenestri a’r drysau cefn yn cael effaith gwaeth ar fwynderau preifat i gymharu
â’r ystafell haul oedd yno yn bresennol.
Tynnwyd
sylw at y gwelliannau bioamrywiaeth oedd wedi eu cynnig, megis gosod blychau
adar ac ystlumod. Nodwyd, pe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu, byddai modd gosod amod i sicrhau bod y
gwelliannau yn cael eu cwblhau cyn i ddefnydd yr estyniad ddechrau.
Ystyriwyd
bod y bwriad yn cydymffurfio gyda chanllawiau a pholisïau cynllunio.
Argymhelliad y swyddogion oedd caniatáu’r cais gydag amodau.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais – y cais
gerbron y pwyllgor gan mai Aelod Etholedig oedd yr ymgeisydd.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Hawliau
Datblygu a Ganiateir i Ddeiliaid Tai a bod yr hawliau hynny yn caniatáu
adeiladu allan i hyd at 4m a pham felly bod y cais yn cael ei gyflwyno i
bwyllgor, nodwyd bod yr estyniad yn mesur 4.8 metr ac felly angen ei gyflwyno i
bwyllgor am benderfyniad.
PENDERFYNWYD: Caniatáu Gydag Amodau
1.
Pum Mlynedd i ddechrau'r gwaith
2.
Unol a chynlluniau
3.
Unol
a'r datganiad seilwaith gwyrdd
Nodyn Gwybodaeth: Dŵr Cymru