Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/11/2025 - Pwyllgor Safonau (eitem 5)

5 COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH pdf eicon PDF 126 KB

Er gwybodaeth ac i gyflwyno unrhyw sylwadau ar y trefniadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.
  2. Derbyn cynnig y Swyddog Monitro i baratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar gyfer nodi gwybodaeth ar wefan y Cyngor, i’w gyflwyno i’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn, sydd wedi ei raglennu ar gyfer 23 Chwefror 2026.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Cadarnhawyd bod hwn yn adroddiad rheolaidd i’r Pwyllgor, yn unol â’i raglen waith. Nodwyd ei fod yn gysylltiedig â Chod Ymddygiad Cynghorwyr, sy’n ei wneud yn ofynnol i aelodau ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro o unrhyw gynnig o letygarwch, buddiant materol neu fantais sy’n werth mwy na £25, fel y swm hicyn sydd wedi ei bennu gan Gyngor Gwynedd.  Cadarnhawyd bod yr egwyddorion wedi ei amlinellu yn y protocol, sydd yn rhoi arweiniad i aelodau ynglŷn â beth sydd yn addas i’w dderbyn. Nodwyd bod rhoddion sydd wedi ei wrthod gan aelodau hefyd yn cael eu cofrestru, er mwyn dadansoddi patrymau ayyb.

 

Cadarnhawyd mai nifer isel o gofrestriadau rhoddion sydd wedi bod eleni, sydd yn debyg i’r flwyddyn flaenorol 2024/25. Sylwyd mai dim ond 3 cofrestr newydd sydd wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf, a rheiny yn ymwneud a’r un digwyddiad.

 

 

 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd canmoliaeth ynghylch cydymffurfiaeth aelodau’r Cyngor a’r polisi. Awgrymwyd y dylid ystyried gyhoeddi cofrestr rhoddion a lletygarwch ar wefan y Cyngor, er mwyn adlewyrchu hyder y cyhoedd a sicrhau tryloywder. Nodwyd bod materion diogelwch data hefyd yn bwysig a bydd angen i hyn gael ystyriaeth wrth ystyried opsiynau cyhoeddi gwybodaeth ar-lein. Penderfynwyd byddai’r Swyddog Monitro yn paratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar gyfer nodi’r wybodaeth ar-lein erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

2.    Derbyn cynnig y Swyddog Monitro i baratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar gyfer nodi gwybodaeth ar wefan y Cyngor, i’w gyflwyno i’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn, sydd wedi ei raglennu ar gyfer 23 Chwefror 2026.