5. DIWEDDARIAD ACHOS BUSNES Y PORTFFOLIO 2025 A CHYNLLUN BUSNES CYFFREDINOL
PDF 238 KB
Hedd
Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.
Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Is-bwyllgor yn unig.
Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn
a thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol Atodiad yn benodol
ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu
bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder
rhai eraill sydd yn ymwneud
a’r Gytundeb Tw fi rannu gwybodateh sensitive ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon
fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd diweddariad 2025 Achos Busnes y Portffolio a'i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu
cyllid flynyddol.
Gofynnwyd i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl
ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen cais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel
rhan o'r broses dyfarnu cyllid blynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr
Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Monitro
a'r Swyddog 151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad
dyfarnu'r cyllid ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth
neu'r llall.
Cymeradwywyd Cynllun Busnes Cyffredinol 2026-2030 wedi'i
ddiweddaru sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Nodwyd diweddariad llafar yr Adolygiad Sicrwydd Portffolio
2025 ac yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i fynd
i'r afael â'r argymhellion.