PROSIECT GWELLA RHEILFFYRDD PADESWOOD - ACHOS BUSNES AMLINELLOL
David
Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Padeswood yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth
y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Trafnidiaeth Cymru yn mynd
i’r afael â’r materion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos Busnes
Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.
Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r
Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar
delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau cyllido
terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn.
Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am
gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn
mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn
ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w
gymeradwyo.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Mathews, Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r Achos
Busnes Amlinellol ar gyfer Padeswood yn amodol
ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a
gynhaliwyd, a bod Cyngor Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael
â’r materion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos Busnes
Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r
adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn
amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn.
Cadarnhau bod
cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y
prosiect yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn
gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac
ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Ceisio cymeradwyaeth
yr Is-bwyllgor i'r OBC ar gyfer Prosiect Gwella Rheilffyrdd Padeswood.
Nodwyd fod yr Achos
Busnes Amlinellol yn cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor ar 5 Rhagfyr
fel y gall Trafnidiaeth Cymru sicrhau'r cyllid ar gyfer y Prosiect.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr Adroddiad.