5.3 Cais Rhif C25/0277/18/LL Tir i'r De o'r B4547 Seion / Pentir, Llanddeiniolen, LL55 3AN
PDF 219 KB
Datblygiad arfaethedig o system storio ynni batri, seilwaith cysylltiedig, mynediad a thirlunio
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Sasha Williams a’r Cynghorydd Gwion Emyr
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
1. Fe
fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan y byddai’n cyflwyno elfen
ddiwydiannol ei naws i safle tir glas agored mewn lleoliad amlwg a fyddai ei
weld o fewn golygfeydd nodedig o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cais felly’n
groes i bolisïau ISA 1, ADN 3, PCYFF 1, PCYFF 2 a PCYFF 4 Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y maent yn ymwneud â sicrhau bod datblygiadau
yn gweddu i’w lleoliad.