6. CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER
PDF 314 KB
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried y
sylwadau ychwanegol a wnaed yn y cyfarfod hwn, yn ogystal a sylwadau y
Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, wrth
fabwysiadu’r Cynllun Ymateb newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cadarnhawyd prif drafodaethau’r Cyfarfod fel a ganlyn:
- Atgyfnerthu’r cais i
Lywodraeth Cymru am ymchwiliad cyhoeddus, gan rannu ymateb y Llywodraeth
i’r cais gydag Aelodau’r Cyngor Llawn.
- Pwysleisio pwysigrwydd
effeithlonrwydd Polisïau Canu’r Gloch, Diogelu a Grym Rhesymol.
- Gofyn i Ffurflenni
Cyfeiriadau Diogelu gael eu dosbarthu yn ehangach nac i Benaethiaid a
Chadeiryddion Llywodraethwyr yn unig.
- Rhannu gwybodaeth am
wariant ar gefnogaeth, therapi a chwnsela i ddioddefwyr i roi sicrwydd ein
bod yn gwario digon ar y gefnogaeth hyn.
- Pwysleisio pwysigrwydd
Polisi Grym Rhesymol a’i fod yn cael sylw priodol yn yr ymateb.
- Ystyriaeth i sut mae
sicrhau fod polisi diogelu yn cael ei ddilyn pan fo’r wybodaeth yn
gyfrinachol a ddim yn hysbys i holl aelodau o gorff llywodraethu ysgol
- Rhoi ystyriaeth i
sicrhau bod pryderon yn cael eu hystyried o ddifrif a bod hynny yn cael ei
atgyfnerthu mewn diwylliant
- Sicrhau bod trefniadau
cadw cofnodion, ac unrhyw hyfforddiant perthnasol, yn cael eu adolygu ac
ystyried swyddog penodol i wirio ansawdd cofnodion.
- Yr angen am sicrwydd
petai rhywun yn codi pryderon heddiw beth fyddai’n wahanol
- Yr angen i gyhoeddi
fersiwn cryno a hawdd i ddarllen o’r ddogfen.
PENDERFYNWYD:
Gofyn i’r Cabinet ystyried y sylwadau uchod, yn ogystal a
sylwadau Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Gofal (13 Ionawr 2026), Cyfarfod
Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi (19 Ionawr 2026) a’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio (15 Ionawr 2026), wrth fabwysiadu’r Cynllun Ymateb
newydd.