7 CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL
PDF 523 KB
I dderbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 29 Medi 2025 hyd 25 Ionawr 2026, sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, adroddiad gan Reolwr Archwilio Mewnol yn diweddaru’r Pwyllgor ar
waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 29 Medi 2025 hyd 25 Ionawr 2026. Amlygwyd
bod 21 o Adroddiadau am Archwiliadau Cynllun Gweithredu 2025/26 wedi eu cwblhau
gyda dau gynllun yn dangos lefel sicrwydd uchel, naw ohonynt yn dangos lefel
sicrwydd digonol a deg yn dangos lefel sicrwydd cyfyngedig. Ategwyd bod 15
cynllun ar y gweill ar Ionawr 25ain 2026.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Yn derbyn bod diffyg
adnoddau yn cael effaith ar wasanaethau, ond yn gyffredinol bod nifer o’r
diffygion, yn enwedig ym maes Gofal Anableddau Dysgu a Chartrefi Preswyl a
Dydd, yn gamgymeriadau mewn cyflawni prosesau yn gywir.
·
Pwy sydd yn gyfrifol am
yr atebolrwydd? Pwy yw’r person cyfrifol?
·
Yn teimlo
rhwystredigaeth nad oes gwelliant amlwg mewn rheoli a chynnal cartrefi gofal –
disgwyliadau ddim yn cael eu cyfarch
·
Yn derbyn yr
argymhellion, er angen sicrwydd bod sylwadau Archwilio Mewnol yn cael eu
hystyried. Y sefyllfa angen sylw pellach.
·
Archwiliad Coed yn
Syrthio; coed risg uchel – oes angen nodi ‘amodi cyfyngiadau adnoddau’ fel
rheswm dros beidio ymateb? Dylai diogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth lle
bynnag mae’r risg
·
Bod angen parhau i gadw
llygad ar y cynlluniau
Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd Rheolwr Archwilio Mewnol
mai gwaith Archwilio Mewnol yw amlygu’r risgiau a thystiolaethu bod
trefniadau mewn lle, ac mai perchnogaeth yr Adrannau yw’r camau gweithredu. Ym
maes Gofal, nodwyd bod y pwysau cynyddol yn cael eu cydnabod (diffyg adnoddau,
cyflogau, gwariant taliadau i asiantaethau), a bod cwestiynau yn cael eu gofyn
ynglŷn â be all ei wneud i liniaru'r risgiau hyn. Ategodd byddai galw
Gweithgor Gwella Rheolaethol yn gyfle da i drafod y sefyllfa mewn manylder a chael
gwell dealltwriaeth. Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod rhai o’r agweddau
yn cael eu gweithredu a bod canfyddiadau arolwg diweddar i ddarpariaeth gofal
preswyl Tan y Marian gan Arolygaeth Gofal Cymru (05-09-26) wedi bod yn dda
iawn, ac nad oedd argymhelliad wedi ei gynnwys yn yr arolwg hwnnw. Er hynny,
derbyniwyd bod Archwilio Mewnol yn edrych ar bethau gwahanol (elfennau
gweinyddol) a bod angen sicrywdd bod darlun llawn o’r
sefyllfa yn cael ei adlewyrchu.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn a defnydd staff asiantaeth, nodwyd bod staff asiantaeth yn
cael eu defnyddio, ac er bod ymgais yn cael ei wneud i osgoi defnyddio staff
asiantaeth oherwydd y gost uchel, bod y Cyngor yn cael ei roi mewn sefyllfa o
orfod gwneud ar adegau.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r
gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol
·
O ganlyniad i ddiffyg gwelliant yn
y maes gofal preswyl mewn trefniadau addas ar gyfer rheoli'r cartrefi yn
briodol a diffyg cydymffurfiaeth gyda phrosesau rheolaethol, y Pwyllgor angen
sicrwydd bod sylwadau Archwilio Mewnol yn cael eu hystyried. Y sefyllfa angen
sylw pellach.