Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/02/2026 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 10)

10 STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL A'R CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL 2026/27 pdf eicon PDF 108 KB

I dderbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2026/2027, i'w cymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2026/2027, i'w cymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS), Strategaeth Archwilio Mewnol sydd yn fodd o sicrhau bod prif weithredwr archwilio mewnol yn datblygu a gweithredu’r strategaeth ar gyfer swyddogaethau archwilio mewnol sy’n cefnogi amcanion strategol a llwyddiant y sefydliad. Eglurwyd bod y Strategaeth Archwilio Mewnol wedi'i datblygu i alinio'r blaenoriaethau, yr amcanion a'r risgiau strategol allweddol sy'n wynebu'r Cyngor i gyd-fynd â gwaith y swyddogaeth archwilio fewnol dros y tair blynedd nesaf. Ystyriwyd y byddai hyn yn darparu cyfeiriad strategol i'r swyddogaeth archwilio fewnol ac yn cefnogi'r Cyngor yn ei ymagwedd at gyflawni ei amcanion allweddol ac yn dyrannu adnoddau archwilio mewnol yn briodol.

 

Ynghyd â’r Strategaeth, ac eto yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS), cyflwynwyd Cynllun Archwilio Mewnol sydd eto yn fodd o sicrhau bod prif weithredwr archwilio yn creu cynllun archwilio mewnol sy’n cefnogi cyflawni amcanion y sefydliad. Eglurwyd bod y Cynllun yn seiliedig ar asesiad o strategaethau, amcanion a chofrestr risg corfforaethol y Cyngor ac y bydd angen cynhyrchu adroddiad blynyddol, gan gynnwys y casgliad blynyddol ar lywodraethu, rheoli risg a rheolaethau, a pherfformiad archwilio mewnol yn erbyn ei amcanion.  (Y Cod) 

 

Nodwyd, er mwyn i archwilio mewnol barhau i fod yn berthnasol, rhaid addasu i ddisgwyliadau gan sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd ag amcanion y Cyngor. Ategwyd bod y Strategaeth Archwilio Mewnol yn chwarae rôl bwysig wrth sicrhau cydbwysedd rhwng cost a gwerth, gan wneud cyfraniadau ystyrlon at lywodraethu cyffredinol, rheoli risg, a rheolaethau mewnol y Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2026/2027, i'w cymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.