Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 03/02/2026 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 9)

9 SIARTER ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 121 KB

I dderbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter Archwilio Mewnol, i'w gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter Archwilio Mewnol, i'w gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.

 

Cofnod:

Yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS) rhaid llunio Siarter Archwilio Mewnol gyda chynnwys y Siarter yn cyfarch Nodyn Gweithredu Llywodraeth Leol a’r  Cod Ymarfer ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y DU (y Cod) a ddarparwyd gan CIPFA i gefnogi awdurdodau i sefydlu eu trefniadau archwilio mewnol a darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth ar gyfer archwilio mewnol.

 

Eglurwyd bod y Cod yn nodi mai prif weithredwr / rheolwr archwilio mewnol sydd â chyfrifoldeb dros baratoi siarter sy'n cydymffurfio â GIAS yn sector cyhoeddus y DU ac y dylai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio  cael ei fodloni ei fod yn cwmpasu trefniadau llywodraethu ar gyfer archwilio mewnol. Ategwyd bod rhaid i’r Siarter gynnwys elfennau sy’n sicrhau swyddogaeth wedi ei diffinio’n glir ac effeithiol - mandad sy'n nodi'n glir bwrpas a chenhadaeth y swyddogaeth archwilio mewnol; bod diffiniadau o'r termau 'bwrdd' ac 'uwch reolwyr', at ddibenion y swyddogaeth archwilio mewnol a bod y term Sefyllfa Sefydliadol yn diffinio sefyllfa archwilio mewnol o fewn y sefydliad, gan sicrhau bod ganddo awdurdod ac annibyniaeth ddigonol sy'n cynnwys mynediad anghyfyngedig i’r uwch reolwyr a’r bwrdd.

 

Yn ychwanegol i’r hyfforddiant a dderbyniodd aelodau’r Pwyllgor (28-01-26) oedd yn rhoi ddiweddariad am eu cyfrifoldebau fel aelod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn sgil cyflwyno Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang a’r Nodyn Cymhwyso a ddaeth i rym yn y sector gyhoeddus ar 1 Ebrill, 2025, fe’u htgoffwyd bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn nodi cyfrifoldeb i fodloni bod y siarter yn cwmpasu trefniadau llywodraethu ar gyfer archwilio mewnol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter Archwilio Mewnol, i'w gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau.