GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.07.2025 -30.09.2025
I ystryied yr
adroddiad a nodi’r wybodaeth
(copi i’r Aelodau yn unig)
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad chwarterol
yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi
cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi
cael sylw Robeco yn ystod y chwarter
dan sylw a’r wybodaeth oedd yn cynnwys manylion
am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd gyda rhai cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd mai thema
ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Mwynau Trosiannol (Transition Minerals).
Trafodwyd
y wybodaeth
Diolchwyd
am yr adroddiad
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr
adroddiad a nodi’r wybodaeth
·
Er derbyn ar y
cyfan bod y cynnydd yn galonogol yn y gweithgareddau ymgysylltu, mai siomedig
oedd gweld cynifer o weithgareddau yn cael eu nodi fel ‘aneffeithiol’