Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/02/2026 - Pwyllgor Safonau (eitem 10)

10 DIWYGIADAU EGWYDDORION A CHOD YMDDYGIAD AELODAU pdf eicon PDF 82 KB

Cynghori aelodau am ddiwygiadau arfaethedig i Gôd Ymddygiad yr Aelodau a Pholisi Canu’r Gloch y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor o newidiadau statudol i Gôd Ymddygiad yr Aelodau, sy’n deillio o'r Rheoliadau newydd a ddaeth i rym ddiwedd mis Ionawr eleni. Amlygwyd bod y newidiadau yn eithaf technegol, a manylwyd ar hyn gan nodi bod newid yr Egwyddorion Ymddygiad a Chôd Ymddygiad yr Aelodau yn debygol o fod o ganlyniad i benderfyniad diweddar y Goruchaf Lys ynglŷn â chydraddoldeb. Adroddwyd bod y newid hwn yn gosod y diffiniad sydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn y Côd Ymddygiad, ac felly bod y warchodaeth nawr ar sail Nodweddion Gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Eglurwyd bod hyn yn tacluso’r Côd Ymddygiad, ond nad yw’n newid hawliau na chyfrifoldebau’r aelodau.

 

Yn ogystal, datganwyd bod Cymru wedi dod a’r ddyletswydd i ymdrin yn briodol ag amgylchiadau economaidd-gymdeithasol i rym o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Adnabuwyd felly bod y Côd wedi’i ddiwygio fel bod dyletswydd i beidio â gwahaniaethau ar sail amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r diwygiadau hyn yn ffurfiol i’r Côd.

 

Cyfeiriwyd at Gynllun Ymateb Cyngor Gwynedd, ac amlygwyd bod y Cabinet wedi mabwysiadu Polisi Canu’r Gloch diwygiedig yn ei gyfarfod fis Ionawr eleni fel rhan o’u hymateb. Gan ei fod yn ddogfen sydd yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cadarnhawyd gan y Swyddog Monitro fod dyletswydd arno i adrodd er gwybodaeth i’r Cyngor Llawn fod y ddogfen wedi newid. Crybwyllwyd pwysigrwydd i aelodau’r Pwyllgor Safonau hefyd fod yn ymwybodol o’r newid hwn.

 

Holwyd ynglŷn â gwarchodaeth i’r iaith Gymraeg. Gan nad yw’r iaith yn Nodwedd Warchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cadarnhawyd mai Mesur y Gymraeg 2011 sy’n rhoi gwarchodaeth i’r Gymraeg.

 

PENDERFYNIAD

Derbyn y wybodaeth.