Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/02/2026 - Pwyllgor Safonau (eitem 11)

11 COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH AELODAU pdf eicon PDF 87 KB

Er mwyn ystyried cyhoeddi cofrestr Rhoddion a Lletygarwch Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn y wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Datganwyd yr adroddir am y Gofrestr yn rheolaidd i’r Pwyllgor hwn. Cyfeiriwyd at drafodaeth flaenorol ynglŷn â’r ffaith na chaiff y Gofrestr ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor ar hyn o bryd.

 

Cadarnhawyd bod y Côd Ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro o unrhyw gynnig o letygarwch, buddiant materol neu fantais sy'n werth mwy na £25.

 

Aethpwyd ymlaen i drafod y Protocol ar Roddion a Lletygarwch Aelodau sydd wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor, sy’n rhoi arweiniad i Aelodau ynglŷn â sut i ddelio gyda chynigion.

Soniwyd am drafodaeth flaenorol y Pwyllgor ynglŷn â phriodoldeb cyhoeddi’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch ar wefan y Cyngor, a chadarnhawyd ei bod bellach yn statudol ofynnol i gyhoeddi’r Gofrestr Buddiannau Aelodau ar y wefan. Cyfeiriwyd at y Protocol gan nodi y gall y cyhoedd ddod i mewn i weld y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch, ac amlygwyd rhai o’r Egwyddorion sydd wedi eu cynnwys yn y Côd Ymddygiad.

 

Pwysleisiwyd yr angen i fod yn ymwybodol o unrhyw oblygiadau o ran diogelu data, gan gydnabod efallai y bydd rhai achosion arbennig lle na fyddai’n addas i ryddhau’r wybodaeth.

 

Daethpwyd i'r casgliad nad oes rheswm pam na ddylid cyhoeddi’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch Aelodau ar y wefan, gan nodi ei fod yn rhoi gwarchodaeth i Aelodau ac yn cyfrannu at yr awydd i fod yn dryloyw ac yn agored. Adnabuwyd fod hyn yn fater cadarnhaol.

 

Holwyd am y drefn wrth fynd ymlaen pe bai cymeradwyaeth i’r mater yn y cyfarfod hwn. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr egwyddor o fod y Gofrestr yn gyhoeddus eisoes wedi’i sefydlu yn y Protocol. Nodwyd felly y bydd yr Aelodau yn cael eu hysbysu o’r newid. Ychwanegwyd y bydd y ffurflen sy’n cael ei defnyddio i nodi unrhyw roddion a lletygarwch yn cael ei haddasu yn ogystal, er mwyn amlygu’r ffaith y caiff ei gyhoeddi ar y wefan.

Nodwyd bod y Gofrestr wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cyhoeddi’r Cyngor, sef cynllun i nodi pa ddogfennau fydd ar gael yn gyhoeddus gan y Cyngor. Ategwyd bod y Cyngor yn ceisio gwneud unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol i’w gwneud yn gyhoeddus o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn gyhoeddus beth bynnag. Datganwyd bod hyn yn arbed yr angen am rai ceisiadau rhyddid gwybodaeth. Gofynnwyd am y budd o’i wneud yn gyhoeddus a pha wahaniaeth yw hyn i’r adroddiad a dderbyniwyd pan fu’n Pwyllgor yn trafod y mater hwn yn flaenorol. Mewn ymateb, amlygwyd y bydd rhoi’r Gofrestr ar y wefan yn golygu y caiff enwau'r aelodau dan sylw eu cyhoeddi yn ogystal. Cadarnhawyd bod y ddogfen eisoes yn gyhoeddus ar ffurf papur, felly mai’r dull o’i wneud yn gyhoeddus yw’r unig newid.

 

Ategwyd y diolch i Mr Aled Jones am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor, a dymunwyd yn dda iddo.

 

PENDERFYNIAD

Ystyried y casgliadau sydd yn yr adroddiad.