Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/02/2026 - Pwyllgor Safonau (eitem 7)

7 AELODAETH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 64 KB

Er gwybodaeth.

Penderfyniad:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Diolchwyd i Mr Aled Jones am ei waith ar y Pwyllgor dros y blynyddoedd. Nodwyd y bydd y ddwy sedd wag yn cael eu hysbysebu, a bod bwriad i adrodd i’r Cyngor ym mis Mai gydag argymhellion.

 

Tynnwyd sylw at y newid diweddar yn y Rheoliadau, sy’n llacio’r cyfyngiadau i fod yn aelod o’r Pwyllgor Safonau fel aelod annibynnol. Manylwyd ar hyn gan nodi y galluogir y newid i gyn-aelodau a chyn-swyddogion o awdurdod y Pwyllgor ddod yn aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau wedi cyfnod o ddwy flynedd o beidio â bod yn aelod/swyddog.

Amlygwyd pwysigrwydd llenwi’r seddi gwag hyn yn brydlon, gan obeithio y bydd cryn ddiddordeb yn y rolau yn sgil y newidiadau yn y Rheoliadau.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r wybodaeth.