I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r Cynllun Busnes
Nodyn
Cais am Gynllun
Strategol / ddogfen ffurfiol fyddai’n amlinellu cyfeiriad WPP IM Co i
leihau costau wedi’r cyfnod
trawsnewid
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn cynnwys Cynllun Busnes Cychwynnol Cwmni Rheoli Buddsoddiadau (WPP IM Co). Eglurwyd, o’r
1af o Ebrill 2026, bydd WPP Investment Management Company
Limited (WPP IM Co) yn gyfrifol am gyngor buddsoddi a gweithredu buddsoddiadau,
gwerth mwy na £25 biliwn, ar ran wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o Gymru. Ategwyd mai’r Cynllun Busnes Cychwynnol yma yw'r cyfrif
ffurfiol cyntaf mae’r Awdurdodau wedi ei dderbyn ac fe gymeradwywyd y Cynllun
Busnes gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar y 10fed o Fawrth 2026.
Amlygwyd bod y Cynllun Busnes yn manylu ar sut fydd y
Cwmni Rheoli Buddsoddiadau yn mynd i gyflawni’r amcanion strategol (dyletswydd
ymddiriedolwyr a lles Aelodau; Gweithredu buddsoddiad; Cyngor buddsoddi;
Buddsoddiad cyfrifol a stiwardiaeth; Buddsoddiad lleol a Chymru; Llywodraethu,
atebolrwydd a thryloywder; Cydymffurfiaeth reoleiddiol; Datblygu tîm a gallu),
ynghyd â gosod cynllun llywodraethu a
goruchwylio, crynodeb ariannol, dull rheoli buddsoddiadau, gweithrediadau a
staffio, rheoli risg a chydymffurfiaeth a buddsoddiad cyfrifol mewn lle.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i sylw bod costau staffio (amcangyfrif
£4.2m) yn sylweddol uwch na gwariant staffio'r Bartneriaeth ar hyn o bryd, ac a
oedd ffigyrau cyfatebol ar gael, nodwyd bod y costau presennol yn isel iawn,
ond y bydd cynnydd sylweddol yn y cyfnod trosiannol wrth sefydlu’r trefniadau
newydd. Y bwriad yw, wrth i’r arbenigedd gael ei sefydlu yn fewnol, y bydd
costau ffioedd Rheolwyr Buddsoddi allanol yn gostwng yn sylweddol.
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â thaliadau budd (dividend) i Aelodau Bwrdd y Cyfranddalwyr, nodwyd
mai cyflogau fydd yn cael eu talu ac nid bonws. Adroddwyd bod Bwrdd Cysgodol
wedi ei sefydlu ers cofrestru Cwmni Rheoli Buddsoddiadau WPP IM Co gyda’r Tŷ
Cwmnïoedd. Ategwyd mai’r wyth Awdurdod Cyfansoddiadol yw’r Cyfranddalwyr ac
felly pe bai buddion i’w rhannu, i’r Cynghorau unigol bydd y rhain yn cael eu
talu. Nodwyd hefyd bod bwriad sefydlu Polisi Tâl (Remuneration Policy). Mae
penodiadau’r Bwrdd IM Co yn y broses o dderbyn sêl bendith gan y Cofrestr
Gwasanaethau Ariannol (FCA).
Mewn ymateb i sylw bod angen Cynllun
Strategol / dogfen ffurfiol fyddai’n amlinellu cyfeiriad WPP IM Co i leihau
costau wedi’r cyfnod trawsnewid, nodwyd bod bwriad cyflogi 12 aelod o staff ym
mis Ebrill, gyda’r ffigwr yn cynyddu i 24 erbyn mis Rhagfyr 2026 - cynnydd
tebygol mewn costau. Er hynny, nodwyd bod disgwyliad i gostau Rheolwr Buddsoddi
/ Cronfeydd allanol leihau yn y tymor hir – amser a ddengys; Dyhead y
Llywodraeth yw lleihau’r ffioedd.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr
adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes
Nodyn:
Cais am Gynllun Strategol
/ ddogfen ffurfiol fyddai’n amlinellu cyfeiriad WPP IMCo i leihau costau wedi’r
cyfnod trawsnewid