9. CRONFA TWF LLEOL YNG NGHYMRU - CYNLLUNIO AR GYFER BLWYDDYN DROSIANNOL (2026/27) GOGLEDD CYMRU
PDF 199 KB
Dylan Griffiths, Rheolwr, Cronfa Ffyniant Gyffredin
Gogledd Cymru (Rheolwr, Gwasanaeth Datblygu Economaidd) Cyngor Gwynedd i
gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
- Awdurdodi Is-bwyllgor Lles
Economaidd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i fonitro cyflwyno blwyddyn
bontio’r Gronfa Twf Lleol (2026/27) ac i arwain y gwaith o baratoi ar
gyfer trosglwyddo’r Gronfa i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol o 2027/28
ymlaen.
- Cymeradwywyd bwriad i
gynnal y dull gweithredu a’r trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer y
Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru — gan gynnwys rôl Cyngor
Gwynedd fel awdurdod lleol arweiniol — ar gyfer blwyddyn
bontio’r Gronfa Twf Lleol yn 2026/27, a chyflwyno cynllun i’r perwyl hwn i
Lywodraeth Cymru.
- Awdurdodi’r defnydd o’r
cyllid a ddarperir i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol i baratoi ar gyfer
cyflwyno’r Gronfa Twf Lleol y tu hwnt i 2026/27, gan weithio ar y
cyd gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i gynhyrchu cynigion y
rhanbarth.