CYFWELIAD AR GYFER PENNAETH ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD (DROS DRO)
I gyfweld ymgeisydd ar gyfer y swydd
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Penodi Sharron
Williams Carter fel Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teulueodd (Dros Dro)
Cofnod:
Cadarnhawyd trefn
y diwrnod gyda’r Aelodau.
Cyfwelwyd un ymgeisydd ar gyfer y swydd Pennaeth Adran
Plant A Chefnogi Teuluoedd
(Dros Dro)
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i roi cyflwyniad rhwng 10 a 15 munud ar y testun,
“Sut ellir
darparu sicrwydd ar effeithiolrwydd gwasanaeth, ansawdd gwaith cymdeithasol a gweithredu diogel yr Adran
Plant?”
Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd
gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Ioan Thomas, ynghyd a chwestiynau ategol gan yr Aelodau.
Ar ddiwedd y cyfweliad,
ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell.
Gwahoddwyd Mr
Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol
Gwasanaethau Cymdeithasol) i
gyflwyno adborth cryno o berfformiad yr ymgeisydd mewn cyfweliad proffesiynol gydag yntau a Catrin Thomas (Cyfarwyddwr Corfforaethol) gyda’r Cyng. Menna Trenholme (Aelod Cabinet Adran Plant A Chefnogi Teuluoedd) yn arsylwi. Eglurwyd
na chynhaliwyd profion ac ymarferion seicolegol gan mai penodiad dros
dro oedd hwn.
Trafodwyd y cyflwyniad ac ymateb yr ymgeisydd i’r cwestiynau
Cynigiwyd ac eiliwyd cynnig y
swydd i Sharron Williams
Carter
PENDERFYNWYD penodi Sharron Williams Carter i’r swydd Pennaeth Adran Plant A Chefnogi Teuluoedd (Dros Dro)