YMDDIHEURIADAU
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cydnabuwyd yr
wythnos hon fel Wythnos Genedlaethol Gofalwyr. Esboniwyd bod yr wythnos hon yn
ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu ac i dynnu sylw at yr heriau y
mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, gan gydnabod eu cyfraniad hollbwysig.
Diolchwyd yn ddiffuant ar ran y Cabinet i’r miloedd o ofalwyr di-dâl yng
Ngwynedd sy’n edrych ar ôl aelodau o’u teuluoedd, ffrindiau a chymdogion bob
dydd. Pwysleisiwyd bod eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac
i’n cymunedau, ac yn aml iawn bod y gwaith hwn yn digwydd y tu ôl i’r llenni.
Diolchwyd i staff a phartneriaid sy’n gweithio ochr yn ochr â gofalwyr i’w
cefnogi.
Nodwyd bod y Cyngor
yn trefnu digwyddiadau drwy’r wythnos ac ar draws y sir er mwyn trafod y
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl, a chroesawyd unrhyw un i fynychu.
Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.
YMDDIHEURIADAU
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Croesawyd pawb i’r cyfarfod y chymerwyd y cyfle i gydnabod
buddugoliaeth Plaid Cymru yn Etholiad y Senedd yn gynharach y mis hwn.
Llongyfarchwyd y Prif Weinidog ar ei benodiad, ynghyd â chyn-aelodau o’r Cyngor
hwn sydd wedi eu hethol yn ogystal.
Diolchwyd i Dîm Etholiadau’r Cyngor, a’r holl staff a fu’n
ymwneud â’r Etholiad am eu gwaith.
Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.