Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/04/2026 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5.1)

5.1 Cais Rhif C25/0403/09/CR Gwesty Corbett Arms, Sgwar Corbett, Tywyn, Gwynedd, LL36 9DG pdf eicon PDF 251 KB

Cais am ganiatâd adeilad rhestredig [LBC] ar gyfer gwaith dad-adeiladu a dymchwel rhannol yr adeilad yn raddol, a’r gwaith cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi y strwythur sydd yn weddill

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd John Pughe a’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

  1. 5 mlynedd
  2. Yn unol â'r cynlluniau
  3. Cyflwyno a chytuno ar fethodoleg fanwl a chynllun graddol o'r gwaith dymchwel, i gynnwys manylion ar gyfer diogelu a gwarchod yr adeilad cyn dechrau'r gwaith. Dylai'r manylion hefyd gynnwys cynllun i adfer y porth a'r ardd ynghyd â manylion achub deunyddiau.
  4. Dylid cyflogi gweithiwr cadwraeth broffesiynol gymwysedig i oruchwylio a chytuno ar y fethodoleg a'r gwaith dymchwel wrth iddynt ddechrau, ac i gael ei gytuno gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) cyn i'r gwaith ddechrau 
  5. Dylai'r ACLl gytuno yn ysgrifenedig ar fanylion y bolltau angori neu'r angorau pinio cyn iddynt gael eu gosod
  6. Cwblhau cofnod adeilad hanesyddol Lefel 3 o Westy'r Corbett Arms. Yn amodol ar uniondeb strwythurol gyda'r adeilad wedi'i wneud yn ddiogel ac yn saff, dylid cynnwys cofnod ffotograffig o'r tu mewn yn y cofnod hwn.