Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/05/2026 - Y Cabinet (eitem 9)

9 DYRANNU INCWM O'R PREMIWM AIL GARTREFI A THAI GWAG AR GYFER 2026/27 pdf eicon PDF 625 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

 

Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac ail-gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod.

 

Comisiynu gwaith pellach i lunio cynigion ar gyfer y defnydd o'r arian premiwm ychwanegol o £914k sydd yn berthnasol i 2025/26 a'r swm o £4k sydd weddill heb ei ddyrannu yn yr adroddiad yma.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd:

 

Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac ail gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod.

 

Comisiynu gwaith pellach i lunio cynigion ar gyfer y defnydd o'r arian premiwm ychwanegol o £914k sydd yn berthnasol i 2025/26 a'r swm o £4k sydd weddill heb ei ddyrannu yn yr adroddiad yma.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol ar gynghorau i bennu defnydd o’r premiwm yn unol â’r Canllawiau Statudol Treth Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi.

 

Adroddwyd bod y Cyngor wedi dilyn yr egwyddor hon wrth ddyrannu i ddibenion a meysydd penodol; aliniad â’r canllawiau statudol ar ddefnyddio incwm premiwm ac aliniad â’r amcanion a nodir yng Nghynllun y Cyngor. 

Aethpwyd ymlaen i restru nifer o ystyriaethau sydd hefyd angen eu gwneud wrth ystyried y dyraniad. Mae'r rhain yn cynnwys nifer uwch o ymholiadau am y premiwm, newidiadau deddfwriaethol pellach i’r gyfundrefn drethi yn 2026-27 all arwain at fwy o ymholiadau / apeliadau, nifer ac amser apeliadau i’r Swyddfa Brisio yn rhoi pwysau ar drigolion ac ar weinyddiaeth y Gwasanaeth Trethi, a bod y rhybudd i derfynu grant tai gwag Llywodraeth Cymru o Fedi 2026 yn golygu nad oes ffrwd incwm ar gyfer gwireddu targedau tai gwag y Cynllun Gweithredu Tai.

 

Amlygwyd yr angen i glustnodi’r incwm ychwanegol i sy’n deillio o gynyddu’r Premiwm ar Eiddo Gwag a chasglu incwm premiwm oedd uwchlaw’r amcangyfrifon yn 2024/25, i feysydd blaenoriaeth.

Argymhellwyd gwerth £1.2 miliwn i’w ddyrannu, sydd wedi’i fanylu yn yr adroddiad, gan nodi fod hyn yn £1.14 miliwn ar sail barhaol a £79 o filoedd ar sail un-tro.  

 

Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth:

·       Croesawyd yr adroddiad a phwysleisiwyd pwysigrwydd y Gronfa Gymunedol gan ei fod yn galluogi’r Cyngor i gefnogi cymunedau.

·       Mynegwyd balchder bod colofn ar effaith wedi’i ychwanegu at yr adroddiad, sy’n rhoi cyfle i fesur effaith yr arian hwn ar gymunedau a phobl Gwynedd.

 

Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid