Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/05/2026 - Y Cabinet (eitem 7)

7 YSGOL BALADEULYN - ADRODDIAD YMGYNGHORI pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y cynnig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Ystyriwyd cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y cynnig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

TRAFODAETH

 

Diolchwyd i’r holl gymuned am eu cyfraniad at y broses ymgynghori.

Nodwyd bod y Cabinet yn parchu ac yn cydnabod faint y mae’r Ysgol yn ei olygu i bobl yr ardal.  

 

Aethpwyd ymlaen i adrodd ar y newid yn nemograffeg y Sir, gyda’r nifer o enedigaethau wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Golyga hyn fod llai o blant nawr yn byw yng Ngwynedd. Adnabuwyd y caiff hyn effaith uniongyrchol ar gynaliadwyedd ysgolion y Sir, a chyfeiriwyd at yr angen i ail edrych ar drefniadaeth addysg er mwyn sicrhau darpariaeth gynaliadwy. Pwysleisiwyd bod ysgolion bach yn aml yn ysgolion cryf gyda chymunedau angerddol iawn o’u cwmpas, ond nodwyd bod heriau addysgol, ariannol a gweithredol wrth gynnal ysgol gyda niferoedd isel iawn am gyfnod hir. Derbyniwyd bod y penderfyniad gerbron yn anodd, ond bod rhaid meddwl am ddyfodol addysg y Sir gyfan.

Pe bai’r Cabinet yn cytuno i symud ymlaen â’r broses, bydd cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod cyn y daw’r mater yn ôl gerbron y Cabinet. Sicrhawyd y bydd camau’n cael eu cymryd i wneud y trosglwyddiad yn gefnogol a pharchus i’r plant, a chymuned ehangach yr Ysgol.

 

Croesawyd Aelod Lleol Ward Llanllyfni i’r cyfarfod. Diolchwyd i swyddogion yr Adran Addysg, yr Aelod Cabinet, a chymuned yr Ysgol yn Nantlle. Cydnabuwyd nad yw’r niferoedd o blant sy’n mynychu Ysgol Baladeulyn yn gynaliadwy, ond credwyd mai’r  ffordd ymlaen fyddai ffederaleiddio’r Ysgol gydag Ysgol Talysarn ac ychwanegu ardal arbenigol ar gyfer plant ag anghenion dysgu arbenigol. Pryderwyd am yr effaith a fyddai cau Ysgol Baladeulyn yn ei gael ar ddefnydd cymdeithasol y Gymraeg yn y gymuned, ac effaith posib hyn ar y farchnad dai yn y pentref.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Gofynnwyd a oes digon o gyfle wedi ei roi i’r gymuned a’r plant leisio eu barn. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi bod yn yr Ysgol dair gwaith, ac wedi cynnal sesiynau i drafod yr heriau, yr opsiynau a ffafrir, ac yna i edrych ar ganfyddiadau’r Adran. Amlygwyd bod sesiwn galw heibio hefyd wedi’i chynnal, a oedd yn rhoi cyfle i’r gymuned ofyn unrhyw gwestiynau a chael mwy o wybodaeth. Ychwanegwyd bod barn y plant wedi ei dderbyn yn ogystal.
  • Mewn ymateb i gwestiwn am liniaru unrhyw effaith negyddol ar y plant yn sgil y penderfyniad gerbron, nodwyd bod trafodaethau gyda’r dysgwyr, y teuluoedd a’r ddwy ysgol wedi eu cynnal er mwyn gallu rhoi cefnogaeth mewn lle i gynorthwyo gyda phryderon sy’n codi.
  • Holwyd sut mae’r awdurdod yn cefnogi ysgolion bach y Sir. Datganwyd bod cefnogaeth i bob agwedd o fywyd ysgol mewn ffyrdd gwahanol. Eglurwyd am y Cynllun Gwarchodaeth sydd mewn lle i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7

Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg