Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 19/05/2026 - Y Cabinet (eitem 11)

11 RHAGLEN GYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2026) pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2026) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd ar 11 Tachwedd 2025 a’r 20 Ionawr 2026 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:

- cynnydd o £35,000 mewn defnydd o fenthyca

- cynnydd o £14,058,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

- cynnydd o £485,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

- cynnydd o £1,313,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

- lleihad o £2,493,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf

- lleihad o £667,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2026) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd ar 11 Tachwedd 2025 a’r 20 Ionawr 2026 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:

- cynnydd o £35,000 mewn defnydd o fenthyca

- cynnydd o £14,058,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

- cynnydd o £485,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

- cynnydd o £1,313,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

- lleihad o £2,493,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf

- lleihad o £667,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

 

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £164.9 miliwn am y 3 blynedd rhwng 2025/26 – 2027/28. Ychwanegwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £12.7 miliwn ers yr adolygiad diwethaf.

 

Adroddwyd mai’r prif gasgliadau yw bod y Cyngor wedi llwyddo i wario £83.8miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £52.7miliwn (63%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. Amlygwyd bod £21.9miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28.

Aethpwyd ymlaen i restru’r prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol.

 

Tynnwyd sylw at y rhestr o’r grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor eu denu ers yr adolygiad diwethaf, sy’n cynnwys:

           £3.2 miliwn – Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) gan Lywodraeth Cymru.

           £2.4 miliwn – Grant ychwanegol Cynnal a Chadw Ysgolion 2025/26.

           £2.3 miliwn – Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

           £1.8 miliwn – Grant gan Lywodraeth Cymru tuag at  Hwb Cymunedol Anabledd Dysgu, Canolfan Dolfeurig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Amlygwyd amryw o faterion cadarnhaol sy’n deillio o’r adroddiad, gan gynnwys y gwerth sylweddol o grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo i’w denu. Tynnwyd sylw at y gwaith helaeth sy’n mynd rhagddo o fewn adrannau’r Cyngor er mwyn llunio’r ceisiadau am y grantiau dan sylw. 

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1:00yh a daeth i ben am 3:45yh

 

Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol