9 ADRODDIAD CHWARTEROL - CADEIRYDD Y BWRDD RHAGLEN CYNLLUN YMATEB (GORFFENNAF 2026)
PDF 165 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gerbron sef y pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen
Cynllun Ymateb.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad
gerbron sef y pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen
Cynllun Ymateb.
TRAFODAETH
Eglurwyd mai’r adroddiad gerbron yw’r pedwerydd adroddiad
chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb. Datganwyd bod yr
adroddiad yn codi ymwybyddiaeth o’r datblygiadau o ran y gwaith hwn, yn ogystal
ag adrodd ar yr hyn sy’n parhau i fod angen ei gyflawni gan y Bwrdd Ymateb.
Nodwyd nad oedd yr Athro Sally Holland yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod hwn i gyflwyno ei hadroddiad, felly bod bwriad i ail
gyflwyno’r eitem yng nghyfarfod y Cabinet fis Medi er mwyn i Gadeirydd y Bwrdd
allu cyflwyno’r adroddiad. Cadarnhawyd y bwriad i gynnal trafodaeth fanylach ar
yr eitem fis Medi o ganlyniad.
Cydnabuwyd dewrder y dioddefwyr a’r goroeswyr, gan ategu eu
bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc hwn.
Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr