11 ADOLYGIAD POLISI DIOGELU (2026)
PDF 216 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Fod y Cabinet yn mabwysiadu Polisi Diogelu Diwygiedig 2026
ac yn cymeradwyo y camau ymwybyddiaeth a nodir yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.
PENDERFYNIAD
Fod y Cabinet yn mabwysiadu Polisi Diogelu Diwygiedig 2026
ac yn cymeradwyo y camau ymwybyddiaeth a nodir yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Adroddwyd bod y Polisi hwn yn cael ei adolygu bob dwy
flynedd er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn cyfarch y ddeddfwriaeth a’r
canllawiau diweddaraf.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd barn ac argymhellion y Pwyllgor
Craffu Gofal wrth iddynt graffu ar yr eitem, gan nodi bod eu hargymhellion
wedi’u cynnwys yn y ddogfen.
Croesawyd Is Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal i’r cyfarfod
i gyflwyno argymhellion y pwyllgor i’r Cabinet. Cyflwynwyd yr argymhellion sef
symud y rhestr diffiniadau i flaen y ddogfen, ac ystyried cynnwys cymal o fewn
y Polisi sy’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r arwyddion bod plentyn yn cael
ei gam feithrin neu fwlio ar lein.
Cydnabuwyd bod cryn newid wedi ei wneud i’r polisi ers yr
adolygiad diwethaf, gan bwysleisio yr adlewyrcha hyn y dysgu sydd wedi’i wneud
yn y maes hwn.
Nodwyd nad oes asesiad ardrawiad cydraddoldeb wedi ei
gwblhau yma gan mai diwygio’r polisi yn unig sy’n cael ei wneud ar y pwynt hwn.
Ymhelaethwyd gan ddweud y bydd angen i asesiad gael ei wneud pan fydd yn dod
gerbron y Cabinet mewn dwy flynedd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Pwysleisiwyd bod diogelu yn fater i bob adran ar draws y Cyngor, ac adnabuwyd bod eitem diogelu bellach ar agenda bob cyfarfod o’r Tîm Rheoli Corfforaethol a thimau rheoli adrannol.
Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol