12 DYRANNU GWARGED INCWM O'R PREMIWM AIL GARTREFI A THAI GWAG AR GYFER 2025-26
PDF 140 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac
ail-gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones.
PENDERFYNIAD
Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac
ail-gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod.
TRAFODAETH
Adroddwyd bod cyfanswm gwarged o £917,770 ar gyfer 2025/26
ar gael i’w ddyrannu. Esboniwyd bod hyn yn gyfuniad o £3,700 o’r Premiwm hyd at
ac yn cynnwys 2024-25 sydd heb ei ymrwymo eto, a £914,070 o Bremiwm 2025-26 a
gasglwyd uwchlaw’r ymrwymiadau.
Er tryloywder, amlygwyd bod disgwyl i’r Cyngor gyhoeddi sut
caiff yr incwm ychwanegol a godwyd ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r problemau
a gaiff eu hachosi gan eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi, neu i fynd i'r
afael â phroblemau tai lleol eraill. Rhestrwyd y cynigion newydd sydd i’w
hariannu, sef Storio a chludo eiddo aelwydydd mewn llety argyfwng / llety dros
dro, a Swydd Rheolwr Prosiect i'r Cynllun Gweithredu Tai.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
·
Esboniwyd mai pwrpas y premiwm yw ceisio sicrhau
nad oes neb yn ddigartref yng Ngwynedd, ac aethpwyd ymlaen i roi cyd-destun
ehangach ynglŷn â’r cynigion newydd a’u henwir yn yr adroddiad.
Crybwyllwyd y bydd swm sylweddol un tro i gyd fynd ag un o’r cynigion yn
ogystal, ond y bydd hyn yn sicrhau arbedion tymor hir i’r Cyngor.
Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid