GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.10.2025-31.12.2025
I ystryied
yr adroddiad
(copi i Aelodau’r
Pwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn a nodi’r
wybodaeth
COFNODION:
Cyflwynwyd adroddiad chwarterol
yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi
cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi
cael sylw Robeco yn ystod y chwarter
dan sylw a’r wybodaeth oedd yn cynnwys manylion
am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd gyda rhai cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd
mai thema ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Hawliau Cyfranddalwyr.
Trafodwyd
y wybodaeth
Diolchwyd
am yr adroddiad
Sylw
yn codi o’r drafodaeth ddilynol
·
Er derbyn natur y gwaith, anodd
oedd gweld sut mae’r gwaith yn perthnasu gyda phenderfyniadau PPC a gweld
effaith y gwaith ar benderfyniadau’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD
Derbyn
a nodi’r wybodaeth