8 FFORWM CRONFA BENSIWN AWDURDODAU LLEOL (LAPFF)
PDF 110 KB
I nodi cynnwys yr adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
COFNODION:
Cyflwynwyd adroddiad yn egluro am waith
Fforwm Cronfa Bensiwn Awdurdodau Lleol (LAPFF) sydd yn gwneud
gwaith da o hyrwyddo’r safon uchaf o lywodraethu
corfforaethol i ddiogelu gwerth hirdymor Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol.
Gwahoddwyd y Cynghorydd
Stephen Churchman, sydd yn aelod o’r Bwrdd
Gweithredol i egluro ymhellach, a sut y gall y fforwm gefnogi a chynorthwyo gwaith Cronfa Bensiwn Gwynedd.
Eglurodd y Cyng. Stephen Churchman ei
fod wedi bod yn Aelod o’r Fforwm
ers bron i 8 mis ac yn yr amser hynny bod 5 cyfarfod fforwm o’r Fforwm wedi
ei gynnal. Nododd bod y cyfarfodydd yn cael eu
rhannu yn ddau gyfarfod - y cyfarfod cyntaf yn un i’r Gweithredwyr
drafod cynnwys y rhaglen a’r adroddiadau
fydd yn cael
eu cyflwyno i’r ail gyfarfod sef y cyfarfod busnes. Ystyriodd bod y drefn yn rhoi
dealltwriaeth dda o gyd-destun y gwaith gyda gwahoddiadau yn cael eu
hymestyn i gynrychiolwyr cronfeydd pensiwn a phwls; bydd pawb yn
cael eu hannog
i gymryd rhan yn y trafodaethau.
Ategodd mai un mater oedd wedi dwyn
ei sylw yn
ddiweddar oedd ystyriaethau i’r maes ‘cemegion am byth’ - cemegion sydd bron yn anorchfygol erbyn hyn gyda
miloedd o dunelli ohonynt yn treiddio i mewn i’r eco system gan greu her
amgylcheddol systemig, creu risg i iechyd pobl (er nad yw’r effeithiau wedi eu
profi hyd yma), llygredd a halogiad dwr. Nododd bod LAPFF yn ymgysylltu gyda’r
cwmnïau hynny sydd yn cynhyrchu deunyddiau (sydd yn cynnwys y cemegion hyn - o
ddillad, i golur, offer cegin ac eraill) a gyda chwmnïau cyfleusterau dŵr
i drafod sut y maent yn ceisio cyfarch y broblem sydd a photensial o arwain at
risg ariannol a chyfreithiol a all yn y pendraw gael effaith ar fuddsoddwyr.
Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor fod yn effro i’r mater.
Wrth gloi, nododd bod LAPFF yn
ymgysylltu ar ran buddsoddwyr (yn debyg iawn i waith Robeco)
ac hefyd yn ymddwyn fel corff sydd yn hyfforddi a chefnogi Pwyllgorau - yn
sefydliad amrywiol iawn.
Diolchwyd am y wybodaeth
Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth ddilynol,
·
Bod defnydd o’r Fforwm yn gyfle da
i dderbyn adborth, arweiniad a gwybodaeth ynglŷn ag ymgysylltu mewn
materion penodol
·
Cais i’r Cynghorydd holi’r Fforwm
ynglŷn â’r ffordd orau o ymgysylltu gyda’r pwnc cemegion am byth - amlwg
yn faes sydd yn codi pryder
·
Gwerthfawr gwybod bod y corff yn
gweithio ar ran y Pwyllgor drwy ofalu bod y Pwyllgor yn gwneud buddsoddiadau
cyfrifol a stiwardiaeth
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth