10 CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2026
PDF 49 KB
I ystyried
a derbyn y Cynllun Archwilio
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn a nodi cynnwys
Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd 2026
COFNODION:
Croesawyd Osian Roberts (Archwilio
Cymru) i’r cyfarfod.
Yn unol â chyfrifoldeb statudol Archwilwyr Allanol, cyflwynwyd Cynllun Archwilio
Manwl ffurfiol ar gyfer cyfrifon 2025-2026 oedd yn egluro
sut roedd Archwilio Cymru yn mynd i gynnal
yr Archwiliad.
Tynnwyd sylw at y lefel perthnasedd y datganiadau ariannol gan nodi and oedd Archwilio Cymru yn ceisio lefel sicrwydd
llwyr ynghylch cywirdeb a thegwch y datganiadau, ond yn mabwysiadau cysyniad perthnasedd - lefel perthnasedd Cynllunio yn 1% o’r asedau
gros yn seiliedig ar ddatganiadau ariannol archwiliedig 2024 -2025.
Yng nghyd-destun lefel perthnasedd datgeliadau partïon cysylltiedig - prif bersonél rheoli,
nodwyd bod y lefel perthnasedd wedi ei osod ar
£1,000.
Cyfeiriwyd at y risgiau gan nodi bod y ‘risg o wrthwneud gan reolwyr’
yn risg gorfodol
sydd wedi ei gynnwys ymhob
cynllun yng Nghymru fel rhan
o weithdrefn Archwilio
Cymru. Nodwyd y bydd ffocws hefyd ar
y risg ‘balansau asedau buddsoddi’ oherwydd bod rhai balansau yn anoddach
i’w gwerthuso nac eraill - yr un broses sydd wedi ei
dilyn dros y blynyddoedd ac sydd bellach wedi hen sefydlu. Nid oedd
risgiau ychwanegol wedi eu hadnabod.
Amlygwyd y byddai gwaith archwilio’r datganiadau ariannol yn cael ei
gwblhau yn ystod mis Medi gyda bwriad o gyflwyno adroddiad ar y datganiadau yn ystod Tachwedd 2026. Cyflwynwyd enwau’r tîm archwilio, yr amcan ffi (oedd
yn cynnwys cynnydd mewn chwyddiant)
a llinell amser y gwaith fydd yn
cael ei gwblhau
yn ystod y flwyddyn,
Diolchwyd am yr adroddiad ac i Osian Roberts am fynychu’r cyfarfod.
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi cynnwys Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd 2026