Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/07/2026 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd (eitem 10.)

10. TREFNIADAU GWNEUD PENDERFYNIADAU AR GYFER RHEOLI'R GRONFA DRAFNIDIAETH RANBARTHOL YN YSTOD Y FLWYDDYN pdf eicon PDF 269 KB

Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Gofynnir i'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol argymell i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig y dylid dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol, y Swyddog Monitro, y Prif Swyddog Cyllid ac arweinwyr trafnidiaeth awdurdodau lleol perthnasol, i gymeradwyo a chyflwyno ceisiadau am newid rhanbarthol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rheolaeth y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol yn ystod y flwyddyn.

 

Dylai'r Is-bwyllgor nodi mai Llywodraeth Cymru fydd yn parhau i wneud penderfyniadau grant terfynol y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol.