RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD CAI LARSEN
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor hwn:
Yn nodi’r cynnydd yn nifer y cartrefi modur a faniau
gwersylla sy’n defnyddio lleoliadau ar draws Gwynedd i barcio ac aros dros nos,
gan gynnwys cilfannau, meysydd parcio, ardaloedd arfordirol a mannau prydferth;
Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall ymwelwyr
sy’n defnyddio cartrefi modur a faniau gwersylla ei wneud i economi Gwynedd, ac
yn croesawu ymwelwyr sy’n defnyddio cyfleusterau priodol ac sy’n parchu ein
cymunedau a’n hamgylchedd;
Yn mynegi pryder, fodd bynnag, ynghylch achosion lle mae
cerbydau’n aros am gyfnodau
estynedig mewn mannau nad ydynt
wedi eu bwriadu
ar gyfer hynny, gan feddiannu mannau
parcio, achosi problemau i drigolion
a defnyddwyr eraill, a rhoi pwysau ar rai o ardaloedd mwyaf sensitif a phoblogaidd y sir;
Yn nodi bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu
safleoedd Arosfannau pwrpasol ar gyfer cartrefi modur, ond bod problemau parcio ac aros dros nos amhriodol yn
parhau mewn nifer o leoliadau;
Yn cydnabod bod cyfyngiadau ar gapasiti
ac adnoddau dynol y Cyngor yn gallu ei
gwneud yn anodd gweithredu ym mhob lleoliad
ar yr un pryd, ond nid yw’n derbyn y dylai diffyg capasiti i weithredu ym
mhobman olygu na ellir mynd
i’r afael â phroblemau amlwg a pharhaus mewn lleoliadau
penodol.
Felly, mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet a’r Aelod
Cabinet perthnasol i fynd i’r afael
â’r problemau sy’n deillio o barcio ac aros dros nos amhriodol gan
gartrefi modur a faniau gwersylla ar draws
Gwynedd, ac i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i
ddod â gwell rheolaeth ar y sefyllfa.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
Mae’r Cyngor hwn:
Yn nodi’r cynnydd yn
nifer y cartrefi modur a faniau gwersylla sy’n defnyddio lleoliadau ar draws
Gwynedd i barcio ac aros dros nos, gan gynnwys cilfannau, meysydd parcio,
ardaloedd arfordirol a mannau prydferth;
Yn cydnabod y
cyfraniad pwysig y gall ymwelwyr sy’n defnyddio cartrefi modur a faniau
gwersylla ei wneud i economi Gwynedd, ac yn croesawu ymwelwyr sy’n defnyddio
cyfleusterau priodol ac sy’n parchu ein cymunedau a’n hamgylchedd;
Yn mynegi pryder,
fodd bynnag, ynghylch achosion lle mae cerbydau’n aros am gyfnodau estynedig
mewn mannau nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer hynny, gan feddiannu mannau
parcio, achosi problemau i drigolion a defnyddwyr eraill, a rhoi pwysau ar rai
o ardaloedd mwyaf sensitif a phoblogaidd y sir;
Yn nodi bod y
Cyngor eisoes wedi sefydlu safleoedd Arosfannau pwrpasol ar gyfer cartrefi
modur, ond bod problemau parcio ac aros dros nos amhriodol yn parhau mewn nifer
o leoliadau;
Yn
cydnabod bod cyfyngiadau ar gapasiti ac adnoddau dynol y Cyngor yn gallu
ei gwneud yn anodd gweithredu ym mhob lleoliad ar yr un pryd, ond nid
yw’n derbyn y dylai diffyg capasiti i weithredu ym mhobman olygu na ellir mynd
i’r afael â phroblemau amlwg a pharhaus mewn lleoliadau penodol.
Felly, mae’r Cyngor
yn galw ar y Cabinet a’r Aelod Cabinet perthnasol i fynd i’r afael â’r
problemau sy’n deillio o barcio ac aros dros nos amhriodol gan gartrefi modur a
faniau gwersylla ar draws Gwynedd, ac i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i
ddod â gwell rheolaeth ar y sefyllfa.