RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD PAUL ROWLINSON
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19
o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor
- yn pryderu am y nifer o
blant a phobl ifanc sy’n reidio e-sgwteri ar balmentydd a ffyrdd
cyhoeddus;
- yn credu bod hyn yn
peryglu diogelwch y rhai sy’n eu defnyddio a diogelwch cerddwyr, yn
enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg;
- yn nodi bod e-sgwteri yn
dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o ‘gerbyd modur’. O ganlyniad, maent yn
destun yr un gofynion ag sy’n ofynnol ar gyfer cerbydau modur eraill,
megis eu trwyddedu a’u hyswirio a’r angen i fod â thrwydded yrru i’w defnyddio
ar ffyrdd cyhoeddus. O ganlyniad, ni ellir eu defnyddio yn gyfreithlon
heblaw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr;
- yn nodi bod e-sgwteri yn
cael eu treialu gan lywodraeth y DG ac fe’u
caniateir ar ffyrdd o fewn rhai ardaloedd ond nid yw’r un o’r rhain o fewn
Gwynedd;
- yn credu nad yw llawer o
rieni a phobl ifanc yn sylweddoli bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd
cyhoeddus yn anghyfreithlon ac y gall yr heddlu atafaelu’r e-sgwter a chyflwyno
adroddiad trosedd traffig sef ‘gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd
parti’, gan arwain at ddirwy o £300 a 6 phwynt ar drwydded yrru’r gyrrwr.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn
galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu
cymryd / pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r
broblem.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae’r Cyngor
- yn pryderu am y nifer o
blant a phobl ifanc sy’n reidio e-sgwteri ar balmentydd a ffyrdd
cyhoeddus;
- yn credu bod hyn yn
peryglu diogelwch y rhai sy’n eu defnyddio a diogelwch cerddwyr, yn
enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg;
- yn nodi bod e-sgwteri yn
dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o ‘gerbyd modur’. O ganlyniad, maent yn
destun yr un gofynion ag sy’n ofynnol ar gyfer cerbydau modur eraill,
megis eu trwyddedu a’u hyswirio a’r angen i fod â thrwydded yrru i’w
defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus. O ganlyniad, ni ellir eu defnyddio yn
gyfreithlon heblaw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr;
- yn nodi bod e-sgwteri yn
cael eu treialu gan lywodraeth y DG ac fe’u caniateir ar ffyrdd o fewn
rhai ardaloedd ond nid yw’r un o’r rhain o fewn Gwynedd;
- yn credu nad yw llawer o
rieni a phobl ifanc yn sylweddoli bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd
cyhoeddus yn anghyfreithlon ac y gall yr heddlu atafaelu’r e-sgwter a
chyflwyno adroddiad trosedd traffig sef ‘gyrru cerbyd modur heb yswiriant
trydydd parti’, gan arwain at ddirwy o £300 a 6 phwynt ar drwydded yrru’r
gyrrwr.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn galw
ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu cymryd
/ pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.