7 GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR
PDF 236 KB
I ystyried
yr adroddiad
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Derbyn cynnwys yr
adroddiad
Nodyn:
COFNODION:
Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r
Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel
bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd
bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda
bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Cyfarfod 13-11-2025
- Gwella Trefniadau Casglu Treth Cyngor – ymddengys nad oedd diweddariad
ar y mater wedi ei gynnwys ar flaen raglen 2026/2027 y Pwyllgor.
·
Bidiau Cyfalaf – Cynllun Ymestyn Maes Parcio Ysgol y
Faenol.
Er yn derbyn bod llithriad yn y cynllun wedi deillio o
faterion cyfreithiol cymhleth a chynnydd yn ymwneud â gofynion darpariaeth
parcio sylweddol o gymharu â’r cynlluniau gwreiddiol, mynegwyd siom gan yr
Aelod Lleol nad oedd costau’r llithriad wedi eu hamlygu. Ategodd mai braf oedd
gweld y gwaith yn mynd yn ei flaen, ond roedd yn dymuno gweld y mater yn cael
ei gynnwys ar y daflen weithredu hyd nes bod ateb i’r cwestiwn ariannol. Nododd
mai bid cyfalaf oedd yma gyda chwmni wedi ei benodi drwy dendr i wneud y
gwaith.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn cynnwys yr
adroddiad
Nodyn:
·
Gwella Trefniadau Casglu Treth
Cyngor – angen rhaglennu diweddariad ar y mater i flaen raglen 2026/2027 y
Pwyllgor
·
Bidiau Cyfalaf – Cynllun Ymestyn Maes Parcio Ysgol y
Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am y costau ynghlwm â’r llithriad