MATERION YN CODI O’R COFNODION
Cofnod:
Eitem 4 – Ymgynghoriad
ar newid geiriad Cynllun Ariannu Ysgolion mewn perthynas â throsglwyddo
balansau ysgolion sy’n cau
Adroddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion bod y Cabinet yn ei gyfarfod ar
7 Mawrth 2017 wedi cymeradwyo newid geiriad cymal 4.8 o’r Cynllun Ariannu
Ysgolion yn unol â’r geiriad isod:
“Bydd gweddill unrhyw
ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r
awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo fel gweddill i unrhyw ysgol arall, heblaw i
ysgol a sefydlwyd fel canlyniad i’r cau hwnnw.
Mewn sefyllfa o’r fath trosglwyddir y gweddill i’r ysgol newydd o dan ddarpariaethau
Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.
MATERION YN CODI O’R COFNODION